Dili Minllyn a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:Dwi'n cofio Cemegydd yn deutha fi, nid y tanwydd sy'n llygru fwyaf ar gar ond y teiars.
Digon posibl, ond does dim llawer y mae Maer Llundain yn gallu ei wneud am deiars; mae lleihau faint o geir llygrus sy'n teithio trwy Brifddinas y Sais yn beth y mae fe'n gallu ei wneud yn rhwydd.
Rhywsut, ma hwn wedi bod yn ddistaw. Y Tweel gan Michelin.
Nid ydyw angen aer, felly mae'r ofnau o blowouts a teiars fflat yn diflannu. Mae angen llai o ddeunyddiau i'w wneud; mae'n cynyddu economi tanwydd a ma'n para'n hirach. Be ma hwn yn ei olygu yw ddim gwastraff teiars oherwydd hoelion ar ffordd; dim ond pan mae'r 'tread' yn gwisgo, a'r ffaith hefyd y gymerith hi'n hirach i'r tread wisgo.
Ofn Michelin yw bydd ei helw'n disgyn o ganlyniad llai o alw am teiras, sy'n reswm pam bod y teiar dal yn 'prototype' wedi ychydig o flynyddoedd.