Talu mwy i barcio ceir sy'n llygru mwy?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Talu mwy i barcio ceir sy'n llygru mwy?

Postiogan Dili Minllyn » Iau 26 Hyd 2006 9:43 am

Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Iau 26 Hyd 2006 11:37 am

Ma'r llywodraeth efo'i blaenoriaethau'n anghywir.

Os gofynni di i unrhyw Cemegydd, y rhan mwyaf llygreddol o gar yw'r teiars arni, gyda'r holl garbon, a be sydd ei hangen i'w creu.

Lle y llywodraeth yw i dalu wthio bwlbiau adnewddol, gan subsidisio'i pris, a rhoi rheolau rhaid i gwmnioedd cadw at, os ydynt eisiau parhau i werthu eu nwyddau yma. Fel, rhaid i gar o maint 2.0 litr petrol ddim cynghyrchu mwy na X gram o CO2 am pob litr o betrol sy'n cael ei llosgi. Cynnig grantiau ar osod paneli solar etc.

Ma'r ffaith fod gan rhywun car o maint injian bach, ddim yn golygu nad ydynt yn ysgafn ar danwydd, nac y chwaith bod eu hinjian yn llosgi'r tanwydd gyda cyn gymaint o effeithlondeb.

Dwi'n gweld hwn y fel ffordd o esgusodi godi treth ar bobl.

Yn amlwg, yn f'oes bach i. Fedrai cofio pris petrol am litr tua £0.439 pan yr oeddwn yn 8/9, a rwan dwi di gweld hi cyn gymaint a £1.009 am litr, ond mae'r nifer o geir ar y ffyrdd wedi codi, er bod treth ar litr tua £0.53.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dave drych » Iau 26 Hyd 2006 2:46 pm

Aaaa, mae'r blydi gyfyrmynt di cael hi'n rong eto! Os bydd y 4x4s yn gorfod talu lot o bres i barcio (wel, y bobl sy'n dreifio nhw fydd yn talu 'de), yn y pen draw bydd pobl yn gwrthod neud. Wedyn byddent byth yn parcio'u ceir ac jysd yn dreifio rownd a rownd gan llygru hyd yn oed fwy! Hyrt!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Dili Minllyn » Iau 26 Hyd 2006 7:33 pm

Difyr, Dave. :D

Digon gwir, Huw, ond rydyn ni'n sôn yma am yr hyn y gall cyngor bwrdeistref ei wneud â'i bwerau digon cyfynyg. O'm rhan i, dw i o blaid unrhyw beth sy'n rhwystro defnyddio'r cerbydau mawr 4x4 yma heblaw ond ar fferm. Yn sicr, maen nhw'n hollol ddiangen yn rhywle fel Richmond, de-orllewin Llundain.

Yn ogystal â llygru'r awyr, maen nhw'n berygl bywyd i gerddwyr, seiclwyr, a phobl mewn ceir bach hyd yn oed. Fel dywedodd Jeremy Clarkson, mae 4x4 fel arf niwclear: unwaith mae un gan un person, does neb arall yn sâff nes bod ganddyn nhwthau'r un peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Al » Iau 26 Hyd 2006 8:12 pm

Neu beth am toll stations, ond fod y pris yn fwy llym ar ceir sydd gyda injan fwy/CO2 emmissions mwy? (w ni ddim sut mae mesur hyna yn effeithiol chwaith)
Al
 

Postiogan Blewyn » Iau 26 Hyd 2006 8:17 pm

Mi ddwedodd rhywun clyfar rhywbryd mai'r dyfais mwyaf sicr o lwyddo i ddiogelu dreifwyr, sieclwyr a cherddwyr fyddai sbigyn haearn yn ymestyn o ganol yr olwyn llywio ac yn pwyntio'n syth at galon y dreifiwr.

Pan mae rhywbeth yn gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel, mae nhw'n ymddwyn yn beryclach.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Dili Minllyn » Mer 15 Tach 2006 10:01 am

Mae cynllun cyffelyb gan Faer Llundain i gynyddu'r Taliadau Tagfeydd ar geir sy'n llygru'n fwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Mer 15 Tach 2006 2:56 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Mae cynllun cyffelyb gan Faer Llundain i gynyddu'r Taliadau Tagfeydd ar geir sy'n llygru'n fwy.


Ffolineb ydi'r fath beth, a'r llywodraeth yn ceisio derbyn mwy o bres. Os byddai Ken Livingstone yn llwyddo, fydd o ddim yn 'Congestion Charge' mwyach, ond we've come for your money. Be petasai llwyth o Fetros a cheir bychain eraill yn gyrru yn y parth, cei di congestion wedyn o ddim pres.

Nid trethu sydd ei hangen, ond gosod canllawiau a rheolau i'r rhai sydd eisiau gwerthu yma ac i basio prawf Safonnau Prydeinig.

Dwi'n cofio Cemegydd yn deutha fi, nid y tanwydd sy'n llygru fwyaf ar gar ond y teiars.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Sul 19 Tach 2006 7:58 pm

huwwaters a ddywedodd:Dwi'n cofio Cemegydd yn deutha fi, nid y tanwydd sy'n llygru fwyaf ar gar ond y teiars.

Digon posibl, ond does dim llawer y mae Maer Llundain yn gallu ei wneud am deiars; mae lleihau faint o geir llygrus sy'n teithio trwy Brifddinas y Sais yn beth y mae fe'n gallu ei wneud yn rhwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan eifs » Sul 19 Tach 2006 8:25 pm

syniad o cael gwared or gas guzzlers yw i wneud pob maes parcio yn y DU efo height restrictions, sydd yn golygu nad yw y land rovers meth parcio. os mae dy gar yn is na hyn a hyn, mae'n bosibl ffitio mewn, os yn rhy fawr, ti yn y cach a methu parcio :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai