gan Dili Minllyn » Mer 01 Tach 2006 9:52 am
Os cewch chi un, cofiwch wneud tyllau yn y gwaelod, neu fe aiff yn ddrewllydd uffernol a'r mwydod yn boddi. (Dwi'n siarad o brofiad).
A dweud y gwir, does dim angen prynu un pwrpasol o gwbl: dim ond gair newydd am domen gompost yw abwydfa. Torrwch y gwaelod oddi ar hen fwced neu fin sbwriel, rhowch e ar y pridd (fel y bydd y mwydod yn gallu mynd mewn a mas trwy'r gwaelod) a dechrau llwytho eich gwastraff llysiau i mewn.