Mesur Newid Hinsawdd yn Araith y Frenhines

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mesur Newid Hinsawdd yn Araith y Frenhines

Postiogan Dili Minllyn » Sad 04 Tach 2006 11:02 pm

Pwy a ŵyr a yw'r Ceidwadwyr wedi mynd yn wirioneddol wyrdd, ond mae eu deiseb dros gynnwys mesur i atal newid hinsawdd yn Araith y Frenhines ar 15 Tachwedd yn werth ei llofnodi.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Sul 05 Tach 2006 2:13 pm

Dwi'n meddwl bod pobl yn cychwyn deffro rwan, gyda gwyddonwyr yn fwy fwy pwysleisio bod cynhefinoedd holl anifeiliad y byd mewn perygl, a'r ffaith bod nifer wedi cael braw gan yr 'heat waves' da ni di bod yn cael dros yr haeafau diweddar, sydd wedi arwain at degau o filoedd yn marw o'i ganlyniad.

Ma'r ffaith fod Arnold Schwarzenegger yn mynd yn erbyn Bush yn dangos rhywbeth.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan S.W. » Sul 05 Tach 2006 11:30 pm

Y poen yn din mwyaf ydy'r gwyddonwyr hynny sy'n dal i ddadlau nad ydy o'n digwydd ac os ydy o'n digwydd mae'n beth naturiol beth bynnag. Mae'n bosib bod neb yn gwbod 110% o'r holl ffeithiau gyda hyn ond mae'n amlwg i fi bod angen gwneud rhywbeth rhag ofn. Efallai nid codi 'Trethi Gwyrdd' ydy'r ateb ond mae angen gwneud rhywbeth pendant.

Hyd yn oed i'r sawl hynny nad ydynt isio credu yn yr effaith Ty Gwydr mae Ailgylchu yn hynnod bwysig - er mwyn torri lawr ar Landfill mwy nag dim. Dylid gwneud ailgylchu yn beth cyfreithlon ble mae'n rhaid i pob ty ailgylchu hyn a hyn o bethau. Dwin dallt bod rhyw Gyngor yn Llundain ar fin dechrau achos llys yn erbyn rhywun sydd wedi gwrthod ailgylchu.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan huwwaters » Llun 06 Tach 2006 12:22 am

Wel, dwi'n gweld lle i rai gwyddonwyr ddadlau bod y beth yn broses naturiol, achos mae hi fel gyda oesau iâ, a hefyd mae rhyw patrwm gyda tymheredd y Daear gyda'r nifer o 'sun spots' sy'n allyrru pelydrau x a meysydd electromagnetig ond nid oes correlation sicr.

Be mae George Bush wedi neud yw gwrando ar rhai gwyddonwyr yn fwy nac eraill. Tydio heb bod yn deud celwydd am hwne (o leiaf), ond mae wedi dewis a dethol pa wybodaeth dyle fo dderbyn, sydd yn y bôn ddim yn wyddoniaeth.

Swydd gwyddonydd yw rhoi mlaen cyfres o ddamcaniaethau, ac i eraill ymchwilio a phrofi a gwrth brofi nhw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 15 Tach 2006 4:17 pm

Mae'n debyg y bydd rhywfath o fesur, ond heb y targedau blynyddol y bu ymgyrchwyr yn galw amdanynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Iau 14 Rhag 2006 10:05 am

Mae'n debyg bod Canolbarth Lloegr wedi profi'r flwyddyn boethaf ers 1659. Gwaeth fyth, mae'n bosibl na fydd rhagor o wyliau sgïo i bobl Pontcanna.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron