Ailgylchu polystyrene?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ailgylchu polystyrene?

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Tach 2006 12:04 pm

Dyn ni wedi prynu oergell newydd, ac mae dod â'r polystyrene arferol. Dyw cyngor sir Ceredigion ddim yn ei dderbyn i ail-gylchu - oes 'na lle i'w rhoi?

Diolch ymlaen llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan joni » Gwe 17 Tach 2006 12:14 pm

Ife jyst ddim yn ei dderbyn yn y bagiau ma nhw casglu ma'r cyngor?
Yw e'n ddim yn bosib mynd a nhw lawr i'r ganolfan ail-gylchu dy hun?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan huwwaters » Gwe 17 Tach 2006 5:07 pm

Nic, wyt ti wedi ystyried ei ddefnyddio fel ynysydd yn yr atig? Os mae fewn stripiau hir, torra nhw a rho nhw ar ben yr insulation sydd yno eisoes.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 22 Tach 2006 11:21 am

Mae gyda ni broblem debyg: newydd dderbyn llond hamper o gaws, wed'i bacio yn y stwff. Ddim yn siwr beth i'w wneud, ond yn meddwl efallai ei gadw ar gyfer pacio pethau eraill ar gyfer eu postio.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan nicdafis » Mer 22 Tach 2006 3:43 pm

Rhoi efy n yr atig yw'r peth symlaf, siwr o fod. O'n i wed meddwl am hyn, ond dyw e ddim ynmynd i neud lot o wahaniaeth ar ran ynyseiddio; mae gyda ni haen go drewchus, newydd roi i mewn.

Does dim sut peth â "chanolfan ailgylchu" yn lleol, yn anffodus.

Oedd pethau fel hyn yn arfer cael eu cadw nes bod mynydd ohono fe, ond does dim cymaint o le storio yn y ty newydd.

I'r atig â fe!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Dili Minllyn » Mer 22 Tach 2006 5:02 pm

Gall bwyll :!: Faswn ddim yn rhoi deunydd fflamadwy yn eich to. :ofn: Os aiff y tŷ ar dân, bydd hi wedi canu arnoch chi.

Gwell mynd am hwn, cynnyrch cynhesol Pencoed. Dyw hynny ddim yn datrys eich problem polystyrene, wrth gwrs, ond bydd yn cadw'ch trigfa'n glyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan nicdafis » Iau 23 Tach 2006 9:51 am

Gan fod yr atig eisioes llawn bocsys o lyfrau, dw i ddim yn credu bydd cwpl o ddarnau o bolystyrene yn neud lot o wahaniaeth ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Iau 23 Tach 2006 12:36 pm

wi'n cofio mewn rhai hen dai, oedden nhw arfer a defnyddio teiliau polystyrene ar y nenfwd. Penderfynwyd yr oedd hwn yn syniad drwg, wedi i dân ddigwydd, gan fod y 'plastig' tawdd yn diferu o'r nenfwd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai