Peiriant amsugno CO2?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GringoOrinjo » Gwe 17 Tach 2006 12:39 pm

Dydi hi'm yn bosib sdorio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddiwydiant a wedyn rhywsut echdynnu'r carbon ohono, rhyddhau'r ocsigen yn ol i'r atmosphere ag ailddefnyddio'r carbon fel tanwydd?
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm

Postiogan dave drych » Gwe 17 Tach 2006 12:48 pm

Ond os ydi'r adwaith sy'n creu CO2 fel by-product yn un sy'n rhyddhau egni, mae rheolau cemeg yn deud bod fyse'r adwaith i wahanu CO2 angen derbyn egni. Felly fyse'r proses o wahanu gronyn carbon deuocsid yn defnyddio cymaint (ella mwy) o egni a hyn fyse'n cael ei gynhyrchu.

Dwi'm yn siwr chwaith.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan eifs » Gwe 17 Tach 2006 5:09 pm

dwin meddwl mai planu mwy o goed fysa un or pethau gorau i'w wneud, gwneud rheol fel bod hi'n orfodol plannu o leiaf 5 coeden mewn gardd sydd yn mesur hyn a hyn. mwy o goed os yw y gardd yn fwy byth. neu gwario filiwn neu ddau yn planu coed yn affrica, ond dim cweit yng nghanol y diffeithdir
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan huwwaters » Gwe 17 Tach 2006 5:48 pm

Rhaid cofio na nid CO2 ydi'r unig nwy sy'n achosi trafferthion i'r atmospher. Mae Sulphur Hexofluorine, Methane a Nitric Oxide yn cyfrannu yn ogystal. Ma dwr hefyd yn cyfri pan mae'n anwedd gan ei fod yn amsugno ac yn allyrru pelydrau isgoch.

Y broblem efo creu ffilter CO2, yw bydd angen mwy o egni i dorri'r bondiau.

Fel rheol mae llosgi rhywbeth fel CH4 a 2O2 sef Methane ac Ocsigen am roi 2H2O + CO2 + egni.

Y rheswm ma adweithiau'n digwydd yw achos fydd y deunyddiau newydd (H2O a CO2) efo bondiau sydd angen llai o egni i'w cadw ynghlwm, ac o ganlyniad yn fwy sefydlog.

http://en.wikipedia.org/wiki/Image:Activation_energy.svg

Dyma graph ar Wikipedia, yn anffodus fydd raid i chi weithio yn ôl (mynd o'r dde i'r chwith). Fedrwch chi weld ar y dde, bod y lefel egni y bondiau yn uchel. Rwan os chi'n ychwanegu dipyn o egni (gwres mewn ffurf fflam) sy'n ateb yr activation energy (y pîg), mi wneith yr adwaith ddigwydd, a wedyn egni y bondiau fod yn llai, yn ogystal a rhyddhau egni. Ond os chi isio gweithio'n ol (chwith i'r dde) i gael gwared o'r CO2, fedrwch chi weld, bod yr egni chi ei hangen ar gyfer yr activation energy lot fwy rwan.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Al » Gwe 17 Tach 2006 5:49 pm

joni a ddywedodd:Onid fydd y gwacter yn sugno'r sdwff mas?



holi moli, mae rhai or awgrymiadau ma yn wirion.

Pam ti'n meddwl fod y lleuad yn sdicio i'w orbit?....ia...tin iawn...disgyrchiant sy'n dal o yno rhag cael ei ddwyn gan marshian. Felly os mae o ar ffin rhwng y exosphere a'r gofod, sef, yn agosach i'r ddaear nag y lleuad be sy am ddigwydd? wel, digon posib sa fo yn aros yn ei unaman, os sa fo mewn orbit, hynny yw fod y disgyrchiant ddim digon cryf i dynnu fo lawr ond digon iddo ddim fflio ffwrdd mewn i'r gofod. Gas cloud sa fo wedyn. dal yn meddwl sa fo'n disgyn nol ddo. open for debate...:?


GringOrinjo a ddywedodd:Dydi hi'm yn bosib sdorio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddiwydiant a wedyn rhywsut echdynnu'r carbon ohono, rhyddhau'r ocsigen yn ol i'r atmosphere ag ailddefnyddio'r carbon fel tanwydd?


weh?! sut ti llosgi C ar ei hun?...alle di ddim heb y H's arno.

Beth am yr holl coed na wedyn, bydd na llai o CO2 i nhw.

Eifs sydd di cael i. Coed all the way
Al
 

Postiogan huwwaters » Gwe 17 Tach 2006 5:51 pm

eifs a ddywedodd:dwin meddwl mai planu mwy o goed fysa un or pethau gorau i'w wneud, gwneud rheol fel bod hi'n orfodol plannu o leiaf 5 coeden mewn gardd sydd yn mesur hyn a hyn. mwy o goed os yw y gardd yn fwy byth. neu gwario filiwn neu ddau yn planu coed yn affrica, ond dim cweit yng nghanol y diffeithdir


Y rheswm bod na cymaint o ddiffeithdir yn y lle cyntaf, achos bod pobl wedi torri'r coed i lawr. Ma coed yn amsugno a chadw dwr yn y tir, yn ogystal a chadw'r pridd at ei gilydd. Am fod y coed wedi mynd, nid oes dwr yn cael ei gadw ac achos bod dim yn dal y pridd, ma'r gwynt yn chwythu'r tir ffrwythlon ar y top, gan wedyn gadael rhywbeth sy'n anodd tyfu stwff ar. Gyd i wneud gyda'r cylrediad nitrogen etc. ac or-ffermio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan huwwaters » Gwe 17 Tach 2006 5:54 pm

GringoOrinjo a ddywedodd:Dydi hi'm yn bosib sdorio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddiwydiant a wedyn rhywsut echdynnu'r carbon ohono, rhyddhau'r ocsigen yn ol i'r atmosphere ag ailddefnyddio'r carbon fel tanwydd?


Ma nhw wedi llwyddo creu deunydd. Ryw fath o wydr allan o CO2 ond ar bwysai dychrynllyd o fawr - tua 15 GPa. Os mae modd cadw'r CO2 yn y stad yma heb y pwysau uchel, byse modd ei ddefnyddio fel deunydd, a ddim gorfod bod yn creu gwydr o tywod, halen a borax.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan GringoOrinjo » Sad 18 Tach 2006 1:08 am

Al a ddywedodd:
GringOrinjo a ddywedodd:Dydi hi'm yn bosib sdorio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddiwydiant a wedyn rhywsut echdynnu'r carbon ohono, rhyddhau'r ocsigen yn ol i'r atmosphere ag ailddefnyddio'r carbon fel tanwydd?


weh?! sut ti llosgi C ar ei hun?...alle di ddim heb y H's arno.


Mae anthracite hyd at 98% carbon, a ma'n nhw'n defnyddio hwnnw fel tanwydd dydi? (hefyd, wele neges Huwwaters uchod)

Al a ddywedodd:Beth am yr holl coed na wedyn, bydd na llai o CO2 i nhw.


Mae CO2 yn cael ei gynhyrchu gan bopeth sy'n resbiradu, felly ni fysa echdynnu'r CO2 o brosesau diwydiannol yn effeithio rhyw lawer ar goed
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm

Postiogan huwwaters » Sad 18 Tach 2006 1:35 am

GringoOrinjo a ddywedodd:
Al a ddywedodd:
GringOrinjo a ddywedodd:Dydi hi'm yn bosib sdorio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddiwydiant a wedyn rhywsut echdynnu'r carbon ohono, rhyddhau'r ocsigen yn ol i'r atmosphere ag ailddefnyddio'r carbon fel tanwydd?


weh?! sut ti llosgi C ar ei hun?...alle di ddim heb y H's arno.


Mae anthracite hyd at 98% carbon, a ma'n nhw'n defnyddio hwnnw fel tanwydd dydi? (hefyd, wele neges Huwwaters uchod)

Al a ddywedodd:Beth am yr holl coed na wedyn, bydd na llai o CO2 i nhw.


Mae CO2 yn cael ei gynhyrchu gan bopeth sy'n resbiradu, felly ni fysa echdynnu'r CO2 o brosesau diwydiannol yn effeithio rhyw lawer ar goed


Dwi ddim yn meddwl bod llawer yn dallt y cydbwysedd sydd yn y byd ma. Y broblem efo'r holl beth yw, fod y byd mwy neu lai wedi bod efo CO2 equilibrium, ond achos bod pobl wedi bod yn cloddio olew a glo ac yn llosgi hwn, ma mwy o CO2 na'r arfer yn cael ei ryddhau, gan tipio'r balance. Ma hyn yn golygu bod yr hyn mae'r coed yn gallu ei dderbyn ddim yn ddigon. Ar y raddfa da ni'n parhau, byddai plannu coed gyd dros y tir sydd ar gael ar y byd ddim yn ddigon.

Rhaid neud cyfaddawd yn rywle, a'r cyfaddawd yna yw peidio bod mor wastraffus a barus. Fel ddaru'r Daily Mail pwyntio allan - llun o Canary Wharf tua 2 o gloch y bore (yn wag, neb yn gweithio), a'r testun yn darllen "which bright spark left all the lights on?".

Ma'r equilibrium ma'n bodoli trwy ein bywydau ym mhob maes. Achos bod ni'n bod yn ddiog, mae mwy a mwy o bobl yn pwyso gormod. Os buasai'r pobl ma'n cerdded yn lle gyrru, byse nhw'n iachach, a byse ne llai o CO2 yn yr awyr.

Perygl arall yw fod y cynyddiad bach ma mewn CO2 yn toddi'r rhew sy'n gorchuddio'r morfeydd methane yn Siberia. Ma Methane yn greenhouse gas hefyd, sy'n golygu bydd hyn yn y fan yn cael ei ryddhau, gan olygu bod y balans yn cael ei dipio mwy.

Natur ydyw. Rhai cadw'r cydbwysedd. Dyma be sy di rhoi cychwyn i stwff megis bird flu a SARS. Gormod o bobl yn byw mewn un lle - Hong Kong a llefydd yn China, ble mae 7 miliwn o bobl yn byw mewn 1 neu 2 filltir sgwar. Trwy natur mae bacteria'n datblygu, a be wneith ddigwydd mi wneith ladd llwyth a gadael y cryfaf ar ôl. Bydd y nifer llai ma'n adfer yr equilibrium ar y ffynonellau naturiol.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dave drych » Llun 20 Tach 2006 12:27 pm

huwwaters a ddywedodd:
Rhaid neud cyfaddawd yn rywle, a'r cyfaddawd yna yw peidio bod mor wastraffus a barus....

...Ma'r equilibrium ma'n bodoli trwy ein bywydau ym mhob maes. Achos bod ni'n bod yn ddiog, mae mwy a mwy o bobl yn pwyso gormod. Os buasai'r pobl ma'n cerdded yn lle gyrru, byse nhw'n iachach, a byse ne llai o CO2 yn yr awyr.


Yn union! Rhaid ini feddwl am ffyrdd o leihau y lefel o'r nwyon 'ma rydym yn ei gynhyrchu yn y lle cyntaf - sef llosgi llai o'r fossil fuels. Rhain yw'r Carbon (a Methane) sydd wedi ei gloi o dan y tir, yn gwneud dim niwed ers miliynau o flynyddoedd. Y ffordd o losgi llai ydi, shock horror, switchio pethau i ffwrdd neu peidio defnyddio ceir.

huwwaters a ddywedodd:Perygl arall yw fod y cynyddiad bach ma mewn CO2 yn toddi'r rhew sy'n gorchuddio'r morfeydd methane yn Siberia. Ma Methane yn greenhouse gas hefyd, sy'n golygu bydd hyn yn y fan yn cael ei ryddhau, gan olygu bod y balans yn cael ei dipio mwy.


A mae Methane (CH4) yn bedair gwaith mwy effiol na carbon deuocsid fel nwy ty-gwydr. Mae rhan fwyaf o methane (ar hyn o bryd) yn dod o gaeau padi sy'n tyfu reis ac hefyd o dwll din gwartheg.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron