Peiriant amsugno CO2?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 27 Hyd 2006 1:00 pm

Ella dylwn i gychwyn edefyn arall i drafod hyn - ond pam nad oes neb wedi dod fyny efo'r syniad o leihau faint o CO2 sy'n yr atmosffer drwy adeiladu peiriant/peiriannau anferth i'w hidlo oddi yno?

Ydi o tu hwnt i allu gwyddonol a thechnolegol dyn i wneud hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan joni » Gwe 27 Hyd 2006 1:21 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ella dylwn i gychwyn edefyn arall i drafod hyn - ond pam nad oes neb wedi dod fyny efo'r syniad o leihau faint o CO2 sy'n yr atmosffer drwy adeiladu peiriant/peiriannau anferth i'w hidlo oddi yno?

Ydi o tu hwnt i allu gwyddonol a thechnolegol dyn i wneud hyn?

Coed, ti'n feddwl?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 27 Hyd 2006 2:51 pm

joni a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Ella dylwn i gychwyn edefyn arall i drafod hyn - ond pam nad oes neb wedi dod fyny efo'r syniad o leihau faint o CO2 sy'n yr atmosffer drwy adeiladu peiriant/peiriannau anferth i'w hidlo oddi yno?

Ydi o tu hwnt i allu gwyddonol a thechnolegol dyn i wneud hyn?

Coed, ti'n feddwl?


Coed yn bosibilrwydd, er bach yn araf eu heffaith. Be oedd gen i mewn golwg oedd rhyw fath o hwfyr enfawr fase'n sugno'r aer i mewn, tynnu allan y CO2 ac yna dychwelyd yr aer glan i'r atmosffer.

Ella fod o'n swnio'n hurt, ond pam nad ydi o'n bosib?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan eifs » Gwe 27 Hyd 2006 2:53 pm

neu Lithiwm Hydrocsid with gwrs, stwff yma sydd yn cael ei ddefnyddio mewn submarines i cael gwared o CO2 mae pobl yn ei anadlu allan.
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Mwlsyn » Gwe 27 Hyd 2006 3:04 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Ella dylwn i gychwyn edefyn arall i drafod hyn - ond pam nad oes neb wedi dod fyny efo'r syniad o leihau faint o CO2 sy'n yr atmosffer drwy adeiladu peiriant/peiriannau anferth i'w hidlo oddi yno?

Ydi o tu hwnt i allu gwyddonol a thechnolegol dyn i wneud hyn?


Yn gynta', mae CO2 yn ran fach fach o'r atmosffer (0.04%), felly bydde fe'n anymarferol tynnu'r nwy yn syth o'r atmosffer. Ar y llaw arall mae'n bosib tynnu'r nwy allan o wastraff pwerdai ayyb., y broblem wedyn yw ble i storio'r CO2.

Mwy o wybodaeth.

Y broblem gyda prosesau fel hyn yw bod angen mwy o egni i dynnu'r CO2 o'r aer, sydd yn cynyddu'r galw am egni, sydd yn cynyddu'r CO2 sy'n cael ei ollwng i'r atmosffer.
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Postiogan joni » Gwe 17 Tach 2006 12:19 pm

Tybed a yw e'n bosib (bare with me on this one), er efallai braidd yn (ok, hollol) anymarferol i adeiladau tyrrau (mwy nag un twr, dwi'n ei olygu) tal iawn iawn mewn sydd yn mynd holl ffordd i'r gofod fel bod pob nwy sydd yn dod o'r llosgi yn mynd syth lan i'r gofod a tu allan i'r atmosffer?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan dave drych » Gwe 17 Tach 2006 12:20 pm

Fyse disgyrchiant yn cadw y nwyon o fewn sphere y Ddaear.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 17 Tach 2006 12:33 pm

dave drych a ddywedodd:Fyse disgyrchiant yn cadw y nwyon o fewn sphere y Ddaear.


Aye, a mae CO2 yn drwm felly byddai hyd yn oed yn fwy tueddol o ddisgyn nol i'r atmosffer. heblaw ei fod yn dwr anferth, neu bibell wrth gwrs. Pibell yr holl ffordd i'r lleuad, does neb yn byw yno. Eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Gwe 17 Tach 2006 12:35 pm

Be am ddyfeisio periant hudol sy'n datrys newyn trydydd byd tra dan ni wrthi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan joni » Gwe 17 Tach 2006 12:37 pm

dave drych a ddywedodd:Fyse disgyrchiant yn cadw y nwyon o fewn sphere y Ddaear.

Onid fydd y gwacter yn sugno'r sdwff mas?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron