Mynydd Caergybi

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mynydd Caergybi

Postiogan Gorwel Dau » Iau 30 Tach 2006 12:54 pm

Dwi mond wedi byw yma am tua 50 mlynedd a thrwy'r cyfnod wedi meddwl am fynydd Caergybi fel 'Mynydd Twr (hefo to ar yr w)'. Ond dwi'n meddwl mod i'n anghywir ac mai Twr heb do ydi o, sy'n newid yr ystyr braidd. Unrhyw un efo syniad prun sy'n iawn, ac efallai efo syniad o hanes yr enw?
Diolch
Gorwel

Gobeith hwn ydi'r seiat iawn.
Gorwel Dau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 27 Medi 2006 7:05 am
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 30 Tach 2006 3:19 pm

Twr, nid Tŵr.
Sori, sgin i'm mwy o wybodaeth! - Ella bydd gin Tegwared ap Seion neu Guto Morgan Jones.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan einionyn » Iau 30 Tach 2006 3:52 pm

Ia, Twr sy'n gywir; dwi'n cofio rhyw bregethwr yn deud bod yna dwr o gerrig ar y copa... ydi hynny'n gywir? 'Rioed di bod dim uwch na chytiau'r gwyddelod fy hun...
einionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Iau 30 Tach 2006 12:07 pm
Lleoliad: Acw.

Postiogan garypritch » Iau 30 Tach 2006 11:17 pm

Twr sy'n gywir, nid yr un efo tô bach ac oes, mae 'na dwr o gerrig ar y copa
Mae caer o'r oes haearn ger y copa o'r enw Caer y Twr ... dwn i ddim p'run ddaeth gyntaf, Mynydd Twr neu Caer y Twr
Rhithffurf defnyddiwr
garypritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Llun 07 Awst 2006 12:16 pm

Postiogan Geraint Edwards » Iau 30 Tach 2006 11:23 pm

"Mynydd Twr" (heb do bach ar yr w) dwi di glywed hefyd. Rioed di clywed neb yn dweud "twwwr". Mae'r twwr i'w gael lawr yn Rio Tinto, be bynnag! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Gorwel Dau » Gwe 01 Rhag 2006 2:59 pm

Diolch bawb am yr ateb.
Dwi wedi clywed llawer o bobl o gwmpas Ynys Mon yn dweud Twr fel bod yna do, yn cynnwys fi tan ddoe!
Gorwel
Gorwel Dau
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 27 Medi 2006 7:05 am
Lleoliad: Ynys Môn


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron