Ymgyrch Bagiau Gwyrdd Tesco

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Syniad Da?

Ydi
7
100%
Nac Ydi
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 7

Ymgyrch Bagiau Gwyrdd Tesco

Postiogan Ari Brenin Cymru » Llun 04 Rhag 2006 3:58 pm

Oes rhywun wedi gweld ymgyrch newydd Tesco i gael pobl i ddefnyddio llai o fagiau? Rydych yn cael pwynt clubcard am bob bag rydych yn ei ail-ddefnyddio. Dwi'n meddwl fod hwn yn syniad da iawn a mae pobl i weld yn cymryd rhan, mae llawer o bobl yn dod a bagiau eu hunain gyda nhw, gan leihau'r nifer o fagiau plastig sy'n cael eu defnyddio.

Gall hyn mond fod yn beth da ir amgylchedd.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 04 Rhag 2006 5:39 pm

Pam na fysa hyn yn syniad da? Wrth gwrs ei fod o.
Er mod i bellach yn gymharol wyrdd yn fy mywyd pob dydd, dwi heb fanteisio ar y pwyntiau Tesco ychwanegol yma, ond dwi yn eu hailddefnyddio nhw fy hun o'r tŷ. Ydw i'n iawn i gredu eu bod nhw'n fagiau 'gwyrdd' hefyd - eu bod nhw'n dirywio (gair gwell plîs?!) yn gyflymach na bagiau plastig eraill? - Nid fod hyn yn reswm i ddefnyddio mwy ohonyn nhw, cofiwch.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan S.W. » Llun 04 Rhag 2006 6:21 pm

Syniad da iawn, nhw'n annog ti i ddefnyddio unrhyw carrierbags, gan gynnwys rhai o siopau eraill a gei di pwynt am ddim am bob bag. Pan naethon nhw agor siop newydd yn Rhuthun mi gaethon ni ddau fag mawr glas am ddim drwy'r post iw defnyddio eto ac eto, a dan ni'n dueddol o fynd a rhyw 2 neu 3 bag carrier ychwanegol o Morrisons hefo ni a cael 5 pwynt am ddim ar ddiwedd y siopa. Mae'n addio fyny'n sylweddol ar ol lot o ymweliadau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Chwadan » Llun 04 Rhag 2006 7:01 pm

Syniad da o ran theori, ond nid yn ymarferol. Dim ond ddwywaith dwi di cal pwyntia a finna'n mynd a rycsac a llwyth o hen fagia plastig bob tro. Ma'r person wrth y til wastad yn anghofio/"anghofio" gofyn faint o fagia nes i "ddim" mo'u defnyddio a dwi wastad yn rhy brysur yn pacio i ofyn :x
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan S.W. » Llun 04 Rhag 2006 7:11 pm

Wrach dylset ti gofio gofyn am dy bwyntiau?

Sori os dwin swnio'n gas yn gofyn rhywbeth felly, ond swnio fel bai yr aelod staff yn fwy na'r cynllun.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron