Oes rhywun wedi gweld ymgyrch newydd Tesco i gael pobl i ddefnyddio llai o fagiau? Rydych yn cael pwynt clubcard am bob bag rydych yn ei ail-ddefnyddio. Dwi'n meddwl fod hwn yn syniad da iawn a mae pobl i weld yn cymryd rhan, mae llawer o bobl yn dod a bagiau eu hunain gyda nhw, gan leihau'r nifer o fagiau plastig sy'n cael eu defnyddio.
Gall hyn mond fod yn beth da ir amgylchedd.