Ges i gynnig dros yr haf i newid o gwmni Swalec draw at NPower, gyda NPower yn addo torri biliau ayyb, gan arbed degau y flwyddyn. Dyma fi'n penderfynnu cymryd mantais o'r cynnig yma.
Camgymeriad mawr.
Os yw NPower yn dod rownd atoch chi, bydden i'n argymell eich bod yn dweud na wrthynt a'u troi ymaith. Saethodd y biliau lan i lefel hurt o uchel, ac roedd eu darlleniadau o'r metrau yn anghywir. Hyd yn oed wedi i mi ffonio'r darlleniad metr cywir drwyddo, roedd hi dal yn dod nol yn anghywir. Symudais yn ol at Swalec oherwydd hyn. Mae NPower wedi rhoi'r darlleniad anhywir iddyn nhw, er fy mod wedi ffonio a danfon darlleniad terfynnol iddynt.
Fy nghyngor i yw cadwch draw o NPower