Oes modd ailgylchu CDs? Dwi ddim yn hoffi'r syniad o daflu nhw i'r bin - dwi'n siwr eu bod nhw'n cymryd hydoedd i bydru (os ydyn nhw o gwbl).
Re: Ail Gylchu CDs?
Postiwyd: Gwe 22 Rhag 2006 11:11 am
gan dafydd
Mae rhai siopau elusen yn cymryd CD/DVDs i'w ailgylchu - unwaith iddyn nhw gael digon mae nhw'n gallu danfon bocs i ffwrdd. Mae busnesau sydd eisiau cael gwared a llwyth o ddisgiau yn gallu gwneud yr un fath. Dwi newydd wneud rhywbeth tebyg drwy Poly C. Reclaimers.