Mae ffilm gyntaf cyn-Arlywydd-nesa'-America bellach ar gael i'w rhentu, ac yn werth ei gweld.
Nid y ffilm fwyaf cynhyrfus ei harddull - darlith yw hi yn y bôn, wedi'i bylchu â phytiau bach am hanes Al Gore – ond mae hiwmor sych Gore yn cadw'r cyfan rhag mynd yn rhy feichus.
Yn arbennig o frawychus, i'r rhai sy'n credu mai problem i wledydd poeth y byd fydd cynhesu byd-eang, oedd y datguddiad, os bydd Silff Rew Grønland yn toddi a llithro i Fôr Iwerydd, yna fe fydd Ffrwd Gwlff Mécsico, sy'n ein cadw ni'n gynnes braf, yn peidio, a bydd Prydain i gyd yn ôl yn Oes yr Iâ, er y bydd gweddill y planed yn rhostio. Neu beth am ddeugain miliwn o ffoaduriaid o Fangladesh os bydd lefel y môr yn dal i godi?