lot o lol yn amgylchynu'r parot 'ma (a thipyn o rai eraill hefyd)
mae'r perchnogion rwan yn trio honni bod gan y deryn rhyw fath o
bwerau telepathig
mae 'na glip sain o'r perchennog yn cael "sgwrs" ag N'kisi
fan hyn. Ond y peth ydi, tria wrando ar y clip
cyn darllen y sgript.
Os ti'n darllen y sgript gynta, yna fe glywi di'r aderyn yn dweud yr hyn rwyt ti
isio iddo'i ddweud. Hynny ydi, os ydyn nhw'n dweud wrthot ti o flaen llaw be rwyt ti i fod i'w glywed, yna dyna glywi di.
mae 'na erthygl ddifyr iawn
fan hyn sy'n amheus iawn o'r holl beth.
mae'r parot yn dipyn o beth bach clyfar heb ei os, ond ddim hanner cymaint â mae rhai yn ceisio'i honni, dyna i gyd