Os medri di gael dy ddwylo ar ychydig o sgrap, medri di adeiladu melin wynt a chasglwr haul am ychydig iawn o bres.
Dwi wedi adeiladu sawl casglwr haul i gynhesu dwr gan ddefnyddio sgrap, ac mae nhw'n effeithiol iawn, hyd yn oed yn y gaeaf. Wnes i ddilyn cynlluniau wnes i brynu yn y
Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth. Ond yn hytrach na phrynu esgyll aliwminiwm ganddynt am £5 x 24, wnes i wneud rhai fy hun allan o fflashings ffenestri Velux sbar ges i gan ffrind sydd yn saer coed. Yr unig gost oedd llond llaw o joints peipiau copr, sodor, ychydig o sgriws a thun chwistrell paent du.
Dyma sut wnes i wneud yr esgyll:
1. Dechrau plygu'r tamaid o blat aliwminiwm rownd y beipen gopr 16mm.
2. Gwasgu'r plat i fewn i'r jig gan ddefnyddio'r beipen. Dau damaid o bren wedi ei sgriwio ar flocyn arall o bren bwlch o tua 18mm rhyngddynt ydi'r jig.
3. Plygu'r esgyll yn ol
4. Taro'r corneli yn sgwar hefo morthwyl
5. Plygu'r esgyll yn ysgafn fel eu bod yn clipio'n dynn am y beipen
6. Dyna ni wedi arbed dros ganpunt! Gallwch ddefnyddio ychydig o seliwr silicon i wella'r cyswllt rhwng yr esgyll a'r beipen.
Dwi hefyd wedi adeiladu melinau gwynt yn gyfangwbl allan o sgrap gan ddefnyddio cynlluniau ges i o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Mae cerfio'r llafnau yn llawer haws na fysa rhywun yn tybio, ac mae o'n uffar o deimlad braf gweld eich melin wynt eich hun yn sbinio yn y gwynt.