Egni glan adre

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Egni glan adre

Postiogan ceribethlem » Iau 08 Chw 2007 2:45 pm

Wrth potshan rownd B&Q pa ddwrnod, fe sylwes i fod ganddyn nhw paneli solar ar werth er mwyn gwresogi dwr i arbed ynni. Dyw hwn ddim yn beth newydd gan fod y fath paneli yn bodoli ers degawd a mwy bellach. un peth weles i oedd yn rhyfeddod (i mi ta beth) oedd tyrbin gwynt i greu trydan yn y ty. Weles i byth un o'r rhain o'r blaen. Rwy'n tybio a fydd yn bosib i mi osod un o'r rhain ar fy nho fflat rhywbryd. Oes rhywun arall wedi gweld/defnyddio un?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Egni glan adre

Postiogan huwwaters » Iau 08 Chw 2007 6:07 pm

ceribethlem a ddywedodd:Wrth potshan rownd B&Q pa ddwrnod, fe sylwes i fod ganddyn nhw paneli solar ar werth er mwyn gwresogi dwr i arbed ynni. Dyw hwn ddim yn beth newydd gan fod y fath paneli yn bodoli ers degawd a mwy bellach. un peth weles i oedd yn rhyfeddod (i mi ta beth) oedd tyrbin gwynt i greu trydan yn y ty. Weles i byth un o'r rhain o'r blaen. Rwy'n tybio a fydd yn bosib i mi osod un o'r rhain ar fy nho fflat rhywbryd. Oes rhywun arall wedi gweld/defnyddio un?


Dwi di clwed amdanynt o'r blaen, a hefyd wedi clwed fod Cyngor Sir Conwy wedi cael cais cynllunio neu ddau, ynglyn a chodi tyrbinau ar eu tai. Dwi di clwed bod sôn llunio ryw fath o polisi, achos ma pethe fel hyn am ddod yn amlycach o fewn y blynyddoedd nesa.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Chip » Iau 08 Chw 2007 8:20 pm

pa fath o gost odd y pethe ma yn B&Q ma nw wastad wedi son i fod yn costus iawn ond falle bydden nw'n itha chep i gymharu ag erill o lle fel hyn.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan huwwaters » Gwe 09 Chw 2007 1:36 am

Dwi'n meddwl dwi di gweld pris oddeutu £3,000 am dyrbin gwynt o roi ar ben ty, ond fel efo ynysu ty, mae'r gost blaenorol yn cymyd blynyddoedd iw hadennill.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan 7ennyn » Sul 11 Chw 2007 5:41 pm

Os medri di gael dy ddwylo ar ychydig o sgrap, medri di adeiladu melin wynt a chasglwr haul am ychydig iawn o bres.

Dwi wedi adeiladu sawl casglwr haul i gynhesu dwr gan ddefnyddio sgrap, ac mae nhw'n effeithiol iawn, hyd yn oed yn y gaeaf. Wnes i ddilyn cynlluniau wnes i brynu yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth. Ond yn hytrach na phrynu esgyll aliwminiwm ganddynt am £5 x 24, wnes i wneud rhai fy hun allan o fflashings ffenestri Velux sbar ges i gan ffrind sydd yn saer coed. Yr unig gost oedd llond llaw o joints peipiau copr, sodor, ychydig o sgriws a thun chwistrell paent du.

Dyma sut wnes i wneud yr esgyll:
Delwedd
1. Dechrau plygu'r tamaid o blat aliwminiwm rownd y beipen gopr 16mm.

Delwedd
2. Gwasgu'r plat i fewn i'r jig gan ddefnyddio'r beipen. Dau damaid o bren wedi ei sgriwio ar flocyn arall o bren bwlch o tua 18mm rhyngddynt ydi'r jig.

Delwedd
3. Plygu'r esgyll yn ol

Delwedd
4. Taro'r corneli yn sgwar hefo morthwyl

Delwedd
5. Plygu'r esgyll yn ysgafn fel eu bod yn clipio'n dynn am y beipen

Delwedd
6. Dyna ni wedi arbed dros ganpunt! Gallwch ddefnyddio ychydig o seliwr silicon i wella'r cyswllt rhwng yr esgyll a'r beipen.

Dwi hefyd wedi adeiladu melinau gwynt yn gyfangwbl allan o sgrap gan ddefnyddio cynlluniau ges i o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Mae cerfio'r llafnau yn llawer haws na fysa rhywun yn tybio, ac mae o'n uffar o deimlad braf gweld eich melin wynt eich hun yn sbinio yn y gwynt.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron