Shw mae. Dw i ddim yn postio'n aml ar y bwrdd yma ond jest i'ch hysbysebu chi i gyd am ddeiseb newydd i achub tir comin y tu mas i Bontarddulais sy'n mewn peryg o gael ei ddinistrio gan peipen nwy mawr.
Mae National Grid yn bwriadu rhedeg eu peipen trwy Comin Cefn Drum y tu mas i'r Bont, sydd yn ardal o bwysigrwydd i bioamrywiaeth. Bydd y beipen wedyn yn mynd ar ei ffordd i Bannu Brycheiniog, ar ei ffordd i loegr. Dych chi'n gallu arwyddo'r deiseb fan hyn;
http://www.petitiononline.com/cefn1282/petition.html
Diolch! A dweud wrth eich ffrindiau!