Wel, o'n i'n teimlo'n eitha' bodlon fy myd am ryw bum munud prynhawn 'ma ar ôl buddsoddi arian i blannu coed gyda Tree Flights i wneud yn iawn am hedfan i Rufain wthnos nesa. Wedyn, dyma fi'n darganfod nad yw hyn o bosibl yn cael rhyw lawer o effaith, ac yn wir efallai'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd (clic).
Oes 'na ffyrdd gwell o wrthbwyso carbon, neu ydi pethau fel Tree Flights yn sgams i drio gwneud i ffyliaid fel fi deimlo'n well? Ai'r unig beth i'w wneud yw osgoi hedfan yn llwyr?