Rhaglen newid hinsawdd sianel 4

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhaglen newid hinsawdd sianel 4

Postiogan Ffwlbri » Iau 15 Maw 2007 10:16 pm

Ddaru rhywun wylio hwn?

Mae'n bosib nad oedd o ddim ar gael yng Nghymru, gan mai rhaglen sianel 4 oedd o, ond rhywbeth fel "The great global warming swindle" oedd y teitl, ac roedd o'n dadlau nad ydi newid hinsawdd yn cael ei achosi gan bobl, ond gan sbotiau haul. Roedd lot o'r dadleuon yn eitha chwerthinllyd, fel bod pobl sydd o blaid lleihau allyriant CO2 yn ceisio atal Affrica rhag ddatblygu. Hefyd, roedd rhai o'r graffau wedi cael eu 'addasu', a rhai o'r gwyddonwyr yn y cyfweliadau yn bobl sydd wedi cael eu cysylltu a chwmniau olew (ee Fred Singer- http://en.wikipedia.org/wiki/Fred_Singer ).

Cyn belled ac y gallwn i weld, dim ond dau ddadl oedd yn edrych yn gredadwy. Y cyntaf oedd bod tymheredd yn arwain crynodiad CO2 o tua 800 mlynedd, dwi'n meddwl. Rydw i wedi darllen ers hynny bod hyn oherwydd rhyw fath o 'feedback loop' rhwng yr atmosffer a'r mor.

Y peth sydd go iawn yn fy mhoeni ydi'r sunspots 'ma. Mae nhw'n dweud pan bod 'na fwy o sunspots, mae hi'n boethach ar wyneb y ddaear. Ydi rhywyn yn gwybod rhywbeth am hyn? Allen nhw egluro mewn iaith y gallaf fi ddeall? Mae'r rhan fwyaf o'r stwff ar y we un ai yn hysterical neu mor dechnegol fel na all person sydd ddim yn ffisegydd ei ddilyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffwlbri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 12 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Caeredin

Re: Rhaglen newid hinsawdd sianel 4

Postiogan huwwaters » Iau 15 Maw 2007 11:51 pm

Ffwlbri a ddywedodd:Y peth sydd go iawn yn fy mhoeni ydi'r sunspots 'ma. Mae nhw'n dweud pan bod 'na fwy o sunspots, mae hi'n boethach ar wyneb y ddaear. Ydi rhywyn yn gwybod rhywbeth am hyn? Allen nhw egluro mewn iaith y gallaf fi ddeall? Mae'r rhan fwyaf o'r stwff ar y we un ai yn hysterical neu mor dechnegol fel na all person sydd ddim yn ffisegydd ei ddilyn.


Sunspots yw'r mannau ar yr haul sy'n allyrru meysydd magnetig a phelydrau-X, a llifoedd poeth a chyflym o blasma (nwy gyda gwefr) Hydrogen. Mae hyn yn naturiol, a heb llawer o effaith ar y ddaear. Mae gwyddonwyr dal yn trio darganfod pam fod nhw'n digwydd. Y rheswm mae nhw'n smotiau du, yw fod nwy yn cael ei drapio gan meysydd magnetig yr haul, a fod y smotiau tua 30% llai oleuedig/boeth na'r mannau sy'n amgylchynu'r smotyn. Un maes magnetig yn saethu allan trwy un, ac yn ôl fewn i'r haul trwy'r llall.

Mae gan y smotiau yma cylched o 11 mlynedd. Os chi'n edrych ar batrwm o pan mae'r smotiau yn mynd mewn llinell, mae graff efo rhyw berthynas gyda tymheredd y ddaear. Os mae'r smotiau haul, i gyd mewn un llinell, mae tymheredd cyfartalog y ddaear yn codi. Neu dyma be mae'r patrwm wedi ei ddangos.

Rhaid pwysleisio nad yw'r patrwm yma'n un union. Ni allwch ddadlau fod y nifer o smotiau haul yn effeithio ar dymheredd y ddaear, ond pan fo'r nifer o smotiau ar eu hanterth mae tueddiad o dymheredd cyfartalog y môr. Gellir gwneud rhagdybiaeth bras o pan fydd 'oes iâ' ar y ddaear. Mae'r cyfnod yr ydym wedi bod yn mesur y nifer o smotiau haul yn fyr iawn. Dim ond ers y canol oesoedd mae unrhyw sylw wedi cael ei wneud ynglŷn a nhw. O gwmpas 1500-1600 mae hanes yn nodi'r adeg ble'r oedd afonydd mawrion Ewrop wedi rhewi, megis y Tafwys. Yr oedd hwn yn ryw fath o 'oes iâ' ond ers hynny, mae tymheredd y ddaear wedi bod yn codi. Yn dechnegol, yr oedd y nifer o smotiau haul mewn golwg yn codi o 1900-60, ond ar hyn o bryd, dyle nhw fod yn lleihau, ac o ganlyniad tymheredd y ddaear yn lleihau.


Os mae unrhyw gwirionedd yn y patrwm yma, yna mae'n golygu fod rhai gwneud mwy o ymdrech i leihau CO2, Methane, anwedd dŵr etc.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhys » Gwe 16 Maw 2007 10:15 am

Weles i'r rhaglen. Fel rhywun sy'n credu bod y ddaear yn cynhesu oherwydd gweithgareddau dyn, roeddwn i'n meddwl fod y ddadl yn ddifyr (er roedd y cyflwyniad braidd yn annoying).

Dwi ddim yn siwr os mai'r neges oeddynt yn ceisio ei roi oedd:
'Tydi'r tystiolaeth ddim mor clear cut a sy'n cael ei awgymu'
neu
'Daliwch ymlaen i wneud fel â mynoch, mae'r byd yn cynhesu beth bynnag'
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chwadan » Gwe 16 Maw 2007 12:22 pm

Lot o feirniadaeth wedi bod o'r rhaglen, e.e. Independent, George Monbiot, Guardian. Trio creu stwr ma nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 16 Maw 2007 1:57 pm

Ia ond sdim problem gennai mewn rhywun sydd yn gofyn cwestiynau neu sydd yn barod i anghytuno gyda barn bobl.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Gwe 16 Maw 2007 4:57 pm

Ie, ond ma pobl yn dethol pa 'wyddonwyr' maent isio gwrando a cymyd sylw ohonynt. George Bush a llwyth o ffyliaid erill wedi 'dewis' gwrando ar y gwyddonwyr sy'n defnyddio'r holl theori smotiau haul yn fwy na'r rhai sy'n lleisio'r barn o nwyon tŷ gwydr. Ffaith ydi fod hyd yn oed nifer o wyddonwyr a oedd yn cefnogi'r theori o gynhesu byd eang naturiol, wedi troi at yr ochr arall a bellach yn cefnogi na dyn sy'n cael effaith ar y tymheredd. Diddorol yw gweld, nad yw hwn wedi digwydd y ffordd arall o gwmpas.


Dwi'n meddwl o blith grwp o bobl, a oedd yno i wneud archwiliad ar gyfer y cyfryngau ynglyn a chynhesu byd eang, dewisiwyd newyddiadurwr i arwain y peth. Nid gwyddonwr.

Ma'r peth yn ffiasgo. Mae wedi colli ei slant gwyddonol ac yn rywbeth mewn Joe Public's realm rwan. Pryd oedd y tro ola i chi gweld prifysgol neu grwp o wyddonwyr yn rhyddhau gwybodaeth ynglyn a chynhesu byd eang?

Gwrandewch ar y Ffisegwyr Atmosfferig, Cemegwyr, Amgylcheddwyr; nid y cyfryngau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Macsen » Gwe 16 Maw 2007 5:56 pm

Dwi'n deall bod un o'r gwyddonwyr wnaeth ymddangos ar y rhaglen wedi cwyno oherwydd bod darnau o'i gyfweliad wedi eu defnyddio mewn ffordd anonest er mwyn awgrymu ei fod o'n anghytuno bod newid hinsawdd yn digwydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Ffwlbri » Sad 17 Maw 2007 11:17 am

huwwaters a ddywedodd:
Gwrandewch ar y Ffisegwyr Atmosfferig, Cemegwyr, Amgylcheddwyr; nid y cyfryngau
.


Yn amlwg, ond yn anffodus mae gan y cyfryngau llawer mwy o rym dros y ddychymyg boblogaidd nac sydd gan ffisegwyr atmosfferig, a mwy o debygolrwydd o effeithio ar ymddygiad pobl. Mae rhaglenni fel hyn yn bwysig, ta waeth faint o unochrog ydyn nhw.

Es i ddarlith yn adran gwyddoniaeth atmosfferig Prifysgol Caeredin ddoe oedd yn dadansoddi dadleuon y rhaglen un ar y tro. Gyda'r sbotiau haul, roedd gwneuthyrwyr y rhaglen wedi dewis gorffen y graff yn 1980, ble mae fwyaf amlwg nad oes perthynas rhwng sbotiau haul a tymheredd y ddaear. Yn waeth na hynny, roeddan nhw hefyd wedi symyd yr holl ddata haul cyn 1960 ugain mlynedd i'r chwith, i ffitio gyda'r data tymheredd. Roeddwn i'n gwybod bod y cyfryngau yn gallu bod yn fler ac yn unochrog, ond mae hyn yn dwyll bwriadol!
Rhithffurf defnyddiwr
Ffwlbri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 12 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Caeredin

Postiogan splosh » Iau 14 Meh 2007 7:33 pm

Reit ma'r theori fod dyn yn cyfrannu at newidiad hinsoddol yn anghywir. Dwi ddim yn credu mewn cynhesu byd eang oherwydd:

1. Roedd hi'n 5 gradd celsiws yn dwymach ym Mhrydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid a wel natho nhw i gyd ddim marw allan do fe? Neu bydde ni ddim ma nawr.

2. Mae mwy na hanner o wyddonwyr ddim yn credu fod dyn yn achosi cynhesu byd eang. Ond maent yn credu fod dyn yn cael effaith ar newidiad hinsoddol.

3. Os ydych yn edrych ar graff yn cymharu tymheredd ac amser yna mae'n mynd lan a lawr yn gyson h.y. mae'r hinsawdd wedi fod yn newid ers y dechrau.

4.a chi'n cofio y tywydd twym na gatho ni ar ddechre'r flwyddyn dros pasg. fe neidiodd y wasg arno fel "feral beast" a cyhuddo cynhesu byd eang. Ond os oedd rhywun wedi trwbli ei hunain digon i edrych ar lefelau gwres solar o'r haul bydde nhw wedi cael sioc fach oherwydd dyna'r mwyaf o wres mae'r haul wedi'i dwlu allan ers i recordiau ddechrau. a eniwe roedd hi'n bwrw eira pasg llynedd. a peidiwch a mentro dweud fod y hinsawdd yn newid mor gyflym a hynny!

fe allai fynd mlan ond sdim pwynt. Gwnewch bach o ymchwil gwerth chweil ac fe welwch fod 'cynhesu byd eang' yn "swinlde". Am unwaith mae sianel 4 wedi'i gael yn iawn. A meddyliwch amdano, ateb y llywdraeth yw trethu. plasma tv's = trethi, ceir= trethi (a bocs bach du syn dilyn chi), cludiant awyr (sydd yn cyfrannu at llai na 2% o allyriannau carbon DU) = trethi, ayb. Ond dwi yn credu fod dyn yn niweidio'r amgylchedd ac i fod angen defnyddio egni adnewyddadwy gan oedd olew fod rhedeg allan erbyn 2000! Ond dwi ddim eisiau cymru i fod yn fferm wynt lloegr!
"Killing one person is murder. Killing a thousand is foreign policy."
splosh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 14 Meh 2007 6:51 pm

Postiogan Ffwlbri » Maw 10 Gor 2007 2:20 pm

Ym, lle i ddechrau?

splosh a ddywedodd:
1. Roedd hi'n 5 gradd celsiws yn dwymach ym Mhrydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid a wel natho nhw i gyd ddim marw allan do fe? Neu bydde ni ddim ma nawr.


Yn wir, ond dim ond son am brydain mae hyn, lle mae'r dadleuon diweddar yn trafod cynhesu byd eang, rhywbeth gwahanol i hinsawdd lleol.


splosh a ddywedodd:2. Mae mwy na hanner o wyddonwyr ddim yn credu fod dyn yn achosi cynhesu byd eang. Ond maent yn credu fod dyn yn cael effaith ar newidiad hinsoddol.


Lle gest ti hwn? Beth ydi'r diffiniad o wyddonydd? Os oes effaith ar yr hinsawdd sydd ddim yn golygu cynhesu byd-eang, beth fydd ei effeithiau?

splosh a ddywedodd:3. Os ydych yn edrych ar graff yn cymharu tymheredd ac amser yna mae'n mynd lan a lawr yn gyson h.y. mae'r hinsawdd wedi fod yn newid ers y dechrau.


Yndi, ond os wyt ti'n edrych ar graff o hinsawdd a CO2, mae 'na gysylltiad agos iawn rhwng y ddau. Ar y gyfradd presennol o allyriant, mae CO2 ar fin mynd oddi ar y graff o'i gymharu a beth sydd wedi bod yn yr atmosffer yn ystod yr ychydig filiynau o flynyddoedd diwethaf. Mae o'n barod yn uwch nac y mae wedi bod ar unrhyw adeg yn y 400,000 o flynyddoedd diwethaf

splosh a ddywedodd:4.a chi'n cofio y tywydd twym na gatho ni ar ddechre'r flwyddyn dros pasg. fe neidiodd y wasg arno fel "feral beast" a cyhuddo cynhesu byd eang. Ond os oedd rhywun wedi trwbli ei hunain digon i edrych ar lefelau gwres solar o'r haul bydde nhw wedi cael sioc fach oherwydd dyna'r mwyaf o wres mae'r haul wedi'i dwlu allan ers i recordiau ddechrau. a eniwe roedd hi'n bwrw eira pasg llynedd. a peidiwch a mentro dweud fod y hinsawdd yn newid mor gyflym a hynny!


Eto, beth wyt ti'n son amdanno yn fan hyn yw tywydd lleol, nid effeithiau byd eang. Digon posib dy fod yn iawn am weithgaredd solar yn yr achos yma, ond tydi hynna ddim yn profi nad ydi'r hinsawdd yn cael ei effeithio gan bobl hefyd.

splosh a ddywedodd:
fe allai fynd mlan ond sdim pwynt. Gwnewch bach o ymchwil gwerth chweil ac fe welwch fod 'cynhesu byd eang' yn "swinlde". Am unwaith mae sianel 4 wedi'i gael yn iawn. A meddyliwch amdano, ateb y llywdraeth yw trethu. plasma tv's = trethi, ceir= trethi (a bocs bach du syn dilyn chi), cludiant awyr (sydd yn cyfrannu at llai na 2% o allyriannau carbon DU) = trethi, ayb. Ond dwi yn credu fod dyn yn niweidio'r amgylchedd ac i fod angen defnyddio egni adnewyddadwy gan oedd olew fod rhedeg allan erbyn 2000! Ond dwi ddim eisiau cymru i fod yn fferm wynt lloegr!


Dwi'n cytunno nad ydi polisi'r llywodraeth yn addas, ond efallai am rhesymau gwahannol i ti. Dwi'n teimlo ei bod hi'n anheg trethu pobl am ddefnyddio ceir heb ei gwneud hi'n haws i ni deitho ar drafnidiaeth gyhoeddus. Does gynnon ni ddim dewis, yn aml iawn ond talu trwy ein trwynau, a parhau i lygru.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffwlbri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 12 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Caeredin


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron