Adlewyrchu' haul i atel cynhesu byd-eang

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Adlewyrchu' haul i atel cynhesu byd-eang

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 16 Maw 2007 10:31 am

Gwelais y syniad o godi rhyw fath o ddrych mawr yn y gofod er mwyn adlewyrchu cyfran fach o belydrau'r haul yn ol i'r gofod yn cel ei grybwyll am yr eilwaith mewn erthygl yn y Guardian ddoe, a hynny gan James Lovelock - y dyn tu oll i theori Gaia.

Y tro cynta i mi glywed son am y syniad hwn oedd pan argymhellwyd o fel ateb posib i'r broblem gan George W Bush rai misoedd yn ol, ond wrth gwrs gan mai o enau'r diafol ddaeth o bryd hynny dalodd neb fawr o sylw.

Mae'n debyg byddai sicrhau lleihad o 1% yn faint o wres yr haul sy'n cyrraedd y ddaear yn gwyrdroi effaith cynhesu byd-eang. Tra nad yw'r syniad yn mynd i wraidd y broblem, fe fyddai o leiaf yn prynu mwy o amser i ni addasu ein ffordd i fyw i sicrhau gellhad tymor hir.

Felly pam nad yw ar flaen yr agenda? Pam nad yw pawb sy'n argyhoeddiedig o effeithiau cynhesu'r byd (a dwi'n un ohonyn nhw) yn galw am ymchwil i'r posibiliad yma ar fyrder? Pam nad yw llywodraethau ac asiantaethau gofod y byd yn cyd-weithio i gynllunio, adeiladu a lansio y math yma o beth cyn gynted a phosib. Pam trafferthu mynd i Mawrth pan fo hyn yn rywbeth sydd angen ei wnedu ar unwaith? Ble mae'r blaid Werdd, FoE a'u tebyg ar hyn?

Os oes gan rywyn atebion i'r uchod, neu lincs i fwy o wybodaeth - diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Gwe 16 Maw 2007 10:58 am

Ond be os oes 'na Oes Ia arall a dyn ni'n styc hefo'r drych anferth 'ma yn y gofod, gan wneud pethau'n oerach fyth? Sut mae cadw'r drych yn pwyntio tuag at yr haul? Ac, os yw'r drych yn torri, fydd y ddaear yn cael 7 mlynedd o lwc ddrwg?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Geraint » Gwe 16 Maw 2007 11:02 am

Y broblem yw fod y siawns o y byd yn uno i greu cynllun mor fawr a hyn yn zero, hyd yn oed os mae'n cael ei brofi mae hwn byddai'r peth gorau i wneud (a dwi ddim yn meddwl fydd gwyddoniaeth bydd yn gallu gweithio allan yn union be sydd yn mynd i ddigwydd a pham). Mi fydd pawb efo atebion gwahanol i'r broblem, mi fydd pawb yn anghytuno am be i wneud ac y dadlau ymysg eu gilydd, mudiadau amgylcheddol a llywodraethau. Ac os eith pethau yn wael mi fydd ymladd a rhyfeloedd am adnoddau a bwyd. Dwi'n pesimistig am y sefyllfa, fel allwch weld.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 16 Maw 2007 11:17 am

Macsen a ddywedodd:Ond be os oes 'na Oes Ia arall a dyn ni'n styc hefo'r drych anferth 'ma yn y gofod, gan wneud pethau'n oerach fyth? Sut mae cadw'r drych yn pwyntio tuag at yr haul? Ac, os yw'r drych yn torri, fydd y ddaear yn cael 7 mlynedd o lwc ddrwg?


Gellid ei reoli wrth gwrs, ei droi o gwmpas ac ati fel y gellir gneud efo lloerenau ar hyn o bryd. Dwi'n siwr nad ydi o tu hwnt i wyddonwyr alleu ei gadw yn pwyntio at yr haul am yr amser angenrheidiol bob dydd.

Geriant - dwi'n pesimistig hefyd, ond dwi'n gweld hwn fel yr ateb mwyaf ymarferol ar hyn o bryd achos deos dim rhaid i bawb gydweithio. Mae sawl gwlad dwi'n siwr allai ei wneud o eu hunain os ydyn nhw isho, neu mewn cyd-weithrediad a rhai gwledydd eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan huwwaters » Gwe 16 Maw 2007 5:06 pm

Daw'r syniad o 'ddrych' o'r ffaith y gwelwyd tymheredd cyfartalog ardal yn lleihau o ganlyniad ffrwydrad llosgfynydd. Be oedd wedi creu'r oeri ma oedd Sylffwr Deuocsid. Yr oedd y SO2 wedi cael effaith o ddisgleirio pelydrau'r haul. Y broblem gyda SO2 yw fel a ganlyn:

Adran Llywodraethol Awstralia a ddywedodd:Pa effaith gall Sylffwr Deuocsid ei gael ar fy iechyd?

Exposure to concentrations of 10 to 50 parts per million for 5 to 15 minutes causes irritation of the eyes, nose and throat, choking and coughing.

Exposure of the eyes to liquid sulfur dioxide, (from, for example an industrial accident) can cause severe burns, resulting in the loss of vision. On the skin it produces burns. Other health effects include headache, general discomfort and anxiety. Those with impaired heart or lung function and asthmatics are at increased risk. Repeated or prolonged exposure to moderate concentrations may cause inflammation of the respiratory tract, wheezing and lung damage. It has also proved to be harmful to the reproductive systems of experimental animals and caused developmental changes in their newborn.


Mae'r syniad o dan drafodaeth yn cynnwys fflio llwyth o rocedi i'r awyr gyd dros y byd gan wasgaru darnau o fetel Sylffwr Deuocsid. Mi wneith hyn dim ond adlewyrchu pelydrau'r haul. Tydio ddim yn cymyd i ystyriaeth fod y nwyon tŷ gwydr dal o gwmpas, yn codi lefel asidedd y môr, yn amsugo gwres yn yr awyr ac yn ei allyrru eto.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron