Gwelais y syniad o godi rhyw fath o ddrych mawr yn y gofod er mwyn adlewyrchu cyfran fach o belydrau'r haul yn ol i'r gofod yn cel ei grybwyll am yr eilwaith mewn erthygl yn y Guardian ddoe, a hynny gan James Lovelock - y dyn tu oll i theori Gaia.
Y tro cynta i mi glywed son am y syniad hwn oedd pan argymhellwyd o fel ateb posib i'r broblem gan George W Bush rai misoedd yn ol, ond wrth gwrs gan mai o enau'r diafol ddaeth o bryd hynny dalodd neb fawr o sylw.
Mae'n debyg byddai sicrhau lleihad o 1% yn faint o wres yr haul sy'n cyrraedd y ddaear yn gwyrdroi effaith cynhesu byd-eang. Tra nad yw'r syniad yn mynd i wraidd y broblem, fe fyddai o leiaf yn prynu mwy o amser i ni addasu ein ffordd i fyw i sicrhau gellhad tymor hir.
Felly pam nad yw ar flaen yr agenda? Pam nad yw pawb sy'n argyhoeddiedig o effeithiau cynhesu'r byd (a dwi'n un ohonyn nhw) yn galw am ymchwil i'r posibiliad yma ar fyrder? Pam nad yw llywodraethau ac asiantaethau gofod y byd yn cyd-weithio i gynllunio, adeiladu a lansio y math yma o beth cyn gynted a phosib. Pam trafferthu mynd i Mawrth pan fo hyn yn rywbeth sydd angen ei wnedu ar unwaith? Ble mae'r blaid Werdd, FoE a'u tebyg ar hyn?
Os oes gan rywyn atebion i'r uchod, neu lincs i fwy o wybodaeth - diolch.