Cân y gog

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cân y gog

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 16 Ebr 2007 5:35 pm

Oes unrhyw un wedi clywed cân y gog eleni? Pan oeddwn yn blentyn roedd can y gog i'w clywed ym mhobman amser hyn o'r flwyddyn, ond nid ydwyf wedi ei chlywed ers blynyddoedd bellach. Roedd cân y gog yn rhywbeth yr oedd pob plentyn yn arfer bod yn gyfarwydd â hi, ond rwy'n amau na chlywid y gân gan fy mhlant yn eu heinioes.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Can y gog

Postiogan Owain Llwyd » Llun 16 Ebr 2007 6:49 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Oes unrhyw un wedi clywed cân y gog eleni? Pan oeddwn yn blentyn roedd can y gog i'w clywed ym mhobman amser hyn o'r flwyddyn, ond nid ydwyf wedi ei chlywed ers blynyddoedd bellach. Roedd cân y gog yn rhywbeth yr oedd pob plentyn yn arfer bod yn gyfarwydd â hi, ond rwy'n amau na chlywid y gân gan fy mhlant yn eu heinioes.


Mi wnes i glywed y gog deirgwaith llynedd - unwaith yn rhywle rhwng Coed Dinorwig a'r Fach-wen, a ddwywaith yn ymyl y gronfa ddwr uwchben Cwm-y-glo. Heb ei chlywed hi eto eleni, ond dw i heb fod allan ryw lawer chwaith.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Gwen » Llun 16 Ebr 2007 9:45 pm

Do, mi glywais i hi ryw bythefnos / dair wythnos yn ol yn Aberystwyth. Dim byd wedyn chwaith. Doedd gen i ddim pres gan mai yn fy ngwely o'n i ar y pryd :(
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dili Minllyn » Maw 17 Ebr 2007 9:59 am

Heb glywed yr un eto. Roedd y mab yn tyngu iddo glywed un, ond wrth wrando'n graff, c'lomen dorchog oedd hi.

Gwelais i wennol ar bwys Llwydlo wythnos ddiwethaf, ond dwi heb weld yr un uwchben Caerdydd eto. Er hynny, mae'r coed yn deilio'n braf, ac mae'n weddol glir bod y gwanwyn wedi cyrraedd.

Af i i chwilio am lyffantod.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Ebr 2007 10:15 am

Can y Gog!

O'n i'n meddwl mae rghyw fath o anthem i Ogledd Cymru odd hwn yn son am :lol: O'n i'n meddwl dechre edefyn Can y Hwntw!

O ddifri, fi heb glywed y gwcw leni, ond wedi gweud 'ny fi 'di symud o'r Mynydd Du i Glydach ers dros Blwyddyn, ac mae'n bosib fod llai i gwcws yng Nghlydach!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Swnen » Iau 19 Ebr 2007 12:50 pm

Do, dwi (bron) yn bendant imi ei chlywed yn y coed ym mhendraw Llyn Traws (tu cefn i'r Atomfa :!: ) ddydd Gwener Groglith. Deud gwir o'n i'n ame'n hun braidd - mond bod y plant yn dystion imi!
Tydwi ddim wedi'i chlywed hi'r pen yma eto - dan ni'n uwch tipyn na fanno. Ma hi hyd lle tua rwan fel arfer.

Dwy wennol wedi cyrredd w'sos dwytha hefyd - digon i gyfiawnhau gwanwyn? :D

Y Boda tinwen ar hyd lle hefyd a'r gwalch bach (dyne ydi Merlin ia?)
Swnen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Gwe 27 Ion 2006 9:57 pm
Lleoliad: Adre yn ty ni

Postiogan Wierdo » Iau 19 Ebr 2007 1:17 pm

Mi oedden ni arfer clywed y gog yn y goeden tu ol ein ty ni flynyddoedd yn ôl. Heb ei chlywed ers dipyn bellach. Dwnim pam chwaith. Efallai mai'r ci sydd wedi'w dychryn, efallai mai'r extension i'r ty ddychrynnodd hi flynyddoedd yn ol, bosib fod hi jesd wedi diflannu!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Gwil ap Tomos » Iau 19 Ebr 2007 5:00 pm

'Roeddwn i ar y ffordd adre pnawn ddoe pan glywais i hi am y tro gyntaf elenni. Eis i i feddwl dipyn amdani..sut ei bod wedi dod yr holl ffordd yn ol yma...a sut oedd pobl blynyddoedd lu yn ol yn clywed yr un fath a glywn i.

Gan fy mod yn dipyn o gyfansoddwr mi wneis bennillion ' there and then' a'i rhoid i fiwsig syml. Dwi'n meddwl wnai dipyn o bres os werthai hi i stiwdants feddw Fangor/Aberystwyth i'w chanu a sefyll i fyny a lawr yn y cytgan.

Dyma hi..os gall rhywun roid mwy ati gora byd. Dim byd ffansi rwan achos mae 'attention span' stiwdants feddw yn llai na goldfish.

Y Gwcw

Wrth ddychwel tuag adref
Mi welais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon.


Cytgan:
So, la ti: Holiati-hia, holia-cw-cw,
Holiati-hia, holia-cw-cw,
Holiati-hia, holia-cw-cw,
Holiati-hia-hoi.

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
Run fath â'r gwcw gynta
A ganodd gynta 'rioed.


Cytgan:
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Postiogan Dili Minllyn » Iau 19 Ebr 2007 6:55 pm

Gwil ap Tomos a ddywedodd:Gan fy mod yn dipyn o gyfansoddwr mi wneis bennillion ' there and then' a'i rhoid i fiwsig syml. Dwi'n meddwl wnai dipyn o bres os werthai hi i stiwdants feddw Fangor/Aberystwyth i'w chanu a sefyll i fyny a lawr yn y cytgan.

Dyma hi..os gall rhywun roid mwy ati gora byd. Dim byd ffansi rwan achos mae 'attention span' stiwdants feddw yn llai na goldfish.

Bydd rhaid i ti dalu’r hawlfraint yn gyntaf. Mae’r gân yma ar albwm Dafydd Iwan Yn ôl i Gwm Rhyd y Rhosyn, o tua 1973.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Gwil ap Tomos » Iau 19 Ebr 2007 7:43 pm

Damia uffarn. Diolch i ti Dili. Pob tro fyddai'n meddwl can i fyny dwi'n ffendio fod rhywun wedi cael blaen arna i. Mae gen Dafydd Iwan dipyn o bres erbyn hyn. Ti'n meddwl y bysa fo yn meindio gadael imi ail brintio hon? Fe newidia i ambell i air os oes rhaid.
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron