Oes rhywun efo profiad o rheoli (h.y dinistrio yn llwyr!) Llysiau’r Dial? Unrhyw dips ganddoch? Mae'r planhigyn yn tyfu yn yr ardd drws nesaf, ac wedi lledu i ardd arall. Ein ardd fydd nesaf. Mae'n blanhigyn ddychrynllyd - mae'n tyfu yn eithriadol o gyflym, yn cyrraedd rhyw naw troedfedd erbyn diwedd haf, ac mae eu wreiddiau yn mynd pobman.
Dwi'n gwybod am y rheolau amgylcheddol sydd i gael wrth ei ddinistrio, dylai toriadau cael eu gladdu mewn landfill ayb. Beth bynnag, dwi am ofyn pobl drws nesaf os allai trin y planhigyn efo round-up, yn ol cyngor gan yr asiantaeth amgylchedd. Nid oedd Cyngor Gwynedd yn gallu cynnig dim i helpu, ond rhoddodd yr asiantaeth amglychedd cynogr reit dda i mi. Y gobaith yw neith sawl triniaeth cael gwared ohonno (efallai gymerith sawl blwyddyn).
Mae'r planhigyn yma yn lledu dros pobman, mae allan o rheolaeth yn nifer o lefydd, a dwy'r awdurdodau ddim efo'r adnoddau i'w rheoli yn iawn.