Tudalen 1 o 1

Llysiau’r Dial (japanese knotweed)

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 3:55 pm
gan Geraint
Oes rhywun efo profiad o rheoli (h.y dinistrio yn llwyr!) Llysiau’r Dial? Unrhyw dips ganddoch? Mae'r planhigyn yn tyfu yn yr ardd drws nesaf, ac wedi lledu i ardd arall. Ein ardd fydd nesaf. Mae'n blanhigyn ddychrynllyd - mae'n tyfu yn eithriadol o gyflym, yn cyrraedd rhyw naw troedfedd erbyn diwedd haf, ac mae eu wreiddiau yn mynd pobman.

Dwi'n gwybod am y rheolau amgylcheddol sydd i gael wrth ei ddinistrio, dylai toriadau cael eu gladdu mewn landfill ayb. Beth bynnag, dwi am ofyn pobl drws nesaf os allai trin y planhigyn efo round-up, yn ol cyngor gan yr asiantaeth amgylchedd. Nid oedd Cyngor Gwynedd yn gallu cynnig dim i helpu, ond rhoddodd yr asiantaeth amglychedd cynogr reit dda i mi. Y gobaith yw neith sawl triniaeth cael gwared ohonno (efallai gymerith sawl blwyddyn).

Mae'r planhigyn yma yn lledu dros pobman, mae allan o rheolaeth yn nifer o lefydd, a dwy'r awdurdodau ddim efo'r adnoddau i'w rheoli yn iawn.

PostioPostiwyd: Maw 01 Mai 2007 8:36 am
gan khmer hun
Canclwm Japan yw'r enw arall arno, ac mae yna nifer o awgrymiadau yn y ddwy ddogfen yma - cynllun rheoli ynys môn a dogfen y Llywodraeth ar reoli planhigion sy'n ymledu.

PostioPostiwyd: Mer 04 Gor 2007 7:21 am
gan Dewin y gorllewin
Blwyddyn diwetha wnes i dorri'r diawled tua 6 modfedd o'r bôn ac arllwys roundup neat lawr y stem. Dwi heb gweld nhw'n dod nol eto :D

PostioPostiwyd: Mer 04 Gor 2007 8:02 am
gan Macsen
Argh! Fe gafon ni bla o'r rhain yn ein gardd ni. Fe gollais i nosweithiau o gwsg yn meddwl amdano'n amlyncu'r ty a'i lusgo mewn i'r goedwig.