Dwlwen a ddywedodd:Tybed be ma M&S (a'r archfarchnadoedd erill) yn 'neud â'r holl fwyd gwastraff sydd heb 'i werthu ar ddiwedd bob dydd
Eu llechio wrth gwrs - mae pob tramp yn gwybod hynny - dynna pam bod clo mawr ar bob sgip M&S a'u teip. Cofio gweithio yn Spar Morfa Bychan a cael ambell beth bod diwrnod oedd am gael ei lechio.
Ynglun a gwastraff bwyd o'r ty, h.y. be sydd ar ôl ar ein platiau, bwyd sydd di mynd yn hen, a crwyn tatws ayyb, ydio'n syniad rhoi rhain lawr y sinc fel eu bod yn mynd i'r môr yn lle cael eu claddu'n y ddaear ?
Dwi'n cofio gweithio mewn gwesty pan yn 14/15 oed, roedd gan brif sinc y gegin beiriant i dorri bwyd yn fân [unrhywun yn gwybod enw y peiriant ?] cyn cael ei olchi lawr y draen.
Pa anfantais sydd i hyn dwch ? a fyddai gwastraff bwyd yn llygru'r môr [rhywfaint gwaeth na ma carthffosiaeth yn neud] ?