Gan fod gen i fynydd enfawr o bridd ar drothwy'r drws ffrynt (ar ôl i'r adeiladwyr fod yn gneud llanast), dwi wedi penderfynu llenwi'r saith potyn bloda' mawr oedd gen i (yn magu chwyn yn yr ardd gefn) gyda'r bwriad o'u llenwi efo rwbath 'blaw gwair a chwyn.
Mae fy mhlantsyn tomato angen ei ailgartrefu, felly mi geith hwnnw fynd i un ohonyn nhw.
Gan ystyried yr adeg o'r flwyddyn, be' alla i 'neud efo'r lleill?
Hapus i gysidro llysiau neu flodau (rwbath 'blaw chwyn!)
Mae hi'r adeg anghywir i blanu bylbs a ballu, ma'n siwr, ydi?? (Ac os felly, pryd dylwn i blanu bylbs?)
Thenciw in antisipêshyn x