Tudalen 1 o 1

Marchnad fawr barhaol yn gwerthu cynnyrch lleol?

PostioPostiwyd: Maw 16 Hyd 2007 4:29 pm
gan Gai Toms
Mae'r holl archfarchnadoedd mawr bydeang ma yn parhau i rhoi eu tinau mawr drewllyd lle y mynno nhw! Tydw i ddim yn eu hoffi, nid yn unig bod rhan fwyaf ou polisiau yn rhemp a bod nhw'n lladd siopau trefi/pentrefi, ond mae'r awyrgylch ei hun yn uffernol o 'artiffishal' a di-gymeriad hefyd. Mae nhw'n pwmpio 'feel good' music i neud chi brynu mwy! Dwi mynd i siopa weitha yn meddwl gwario £30, a dod ona wedi gwario £70!

Dwi'n gwybod bod ambell i Farchnad Ffermwyr yn cael ei gynnal bob hyn a hyn, ond fy nghwestiwn yw :

A fysa marchnad enfawr parhaol, dan-do, yn gwerthu cynnyrch lleol yn gweithio yn rhywle fel, dudwn, Porthmadog i gystadlu a Tesco's? Marchnadoedd fel yr un yng Nghaerdydd / Gaer neu unrhyw dre fawr lle cewch chi ddewis enfawr o gynnyrch ffresh fel pysgod / cig / llysiau yn ogystal a dillad a nwyddau etc. Ble mae'r elw yn mynd yn syth i'r gwerthwr (a chomisiwn i'r adeilad). Rwyf yn dychmygu pobl o thu hwnt i Borthmadog ddod gan bod y cynnyrch a'r awyrgylch mor dda. Rwyn tybio y bydd rhywbeth fel hyn yn hwb mawr i gynaliadwyedd araloedd fel Gwynedd.

Ydw i'n gor-ddychmygu yn fama, ta ydi'n bosib?

PostioPostiwyd: Mer 17 Hyd 2007 1:29 pm
gan Dwlwen
Sori - sdim cliw 'da fi am briodoledd sefydlu'r fath fenter mewn ardal fel Porthmadog - ond 'nath dy bost atgoffa fi o ymweliad diweddar i archfarchnad gydweithredol Unicorn ym Manceinion. Ma nwyddau'r siop i gyd yn lleol, organeg, masnach-deg, a vegan - ac odd y profiad o siopa yna yn sicr lot llai o ffwdan na ciws anferth tesco. Wy'n gweld e'n ysbrydoledig bod y math yma o siop ar agor 9am-7pm, 7 dydd yr wythnos (ac ma dalen hanes y wefan yn dangos bod e'n gryn sypreis iddyn nhw hefyd.)

Wy'n byw yng Nghaerdydd, lle ma gyda ni farchnad barhaol wych, a marchnad wythnosol Glanyrafon - ond fydden i'n dwli gweld cynhyrchwyr lleol yn cymryd cam uchelgeisiol tebyg i fodel Unicorn.

Yn fras - o'n i jyst yn popio mewn i ddweud 'mod i ddim yn meddwl bod ti'n or-obeithiol. Ond me'n amlwg am gymryd tipyn o waith caled a chyd-weithrediad cyn perswadio pobl bod budd mewn stopio dibynnu ar yr archfarchnadoedd enfawr o-mor-hawdd, a dechrau cymryd bach o gyfrifoldeb dros yr hyn ry'n ni'n prynu...

o.n. wy newydd sylweddoli bodco-op bwyd yn bodoli eisoes ar 'y'n stepen drws i, felly sdim esgus pen yma rhagor, os e! :wps:

PostioPostiwyd: Mer 17 Hyd 2007 2:36 pm
gan Gai Toms
Diolch Dwlwen. Mae'r project Unicorn na yn i weld yn dda! Byddaf yn mynd i'r farchnad Riverside na pan fyddaf lawr yn Gaerdydd, mae'n wych!

Dwi'n gwybod mae i lefydd poblog mae nifer o gynnyrch bwyd yn mynd er mwyn y gwerthiant ac elw ayyb, ond.. mae'n eironig bod pobl 'gwledig' yn goro neud llawer mwy o ymdrech i gael bwyd 'lleol' na rheini mewn llefyd poblog fel ee Caerdydd.

Mae Co-op's bwyd yn cychwyn o gwmpas fama, er enghraifft - mae Ysgol Tanygrisiau gyda system archebu llysiau. Ond, tydi hynny ddim yn dweud bod y llysiau yn dod o rhywle lleol. Dwi meddwl eu bod nhw'n dod o Lerpwl! Ond eto, er yr amgylchfyd, mae dod o Lerpwl yn well na Seland Newydd!

Da ni mond yn gorfod mynd yn ol 20 mlynedd lle roedd siopau lleol yn ffynnu, a chigoedd, llysiau, wyau ayyb ar gael yn hawdd. Be sy wedi digwydd? Dwi'n gorfod mynd ar y beic neu yn y car i nol pethau sylfaenol fel papur newydd, lefrith a bara, tra mae rhyw foi o rhywle!!??, sydd wedi prynu'r siop lleol (Tanygrisiau), a'i droi i swyddfa iddo'i hun ar gyfer cyfieithu instruction manuals Bosch o'r Almaeneg i Saesneg. Mae wedi tynnu'r calon o gymdeithas er lles ei swydd ei hun. Dwi ddim yn trio bod yn hen ffash a nostalgic, jyst trio rhoi'r holl beth mewn presbectif i symleiddio, neu normaleiddio y ffordd mae pobl yn prynu. Wrth feddwl amdano yng nghyd-destun cynhesu byd eang ayyb, mae hyn yn hollol bwysig.

Sori, dwi'n tynnu oddiwrth y pwnc gwreiddiol ychydig, ond mae'n bendant yn gysylltiedig.

Siopau lleol a Farchnad fawr dan-do i bawb!

PostioPostiwyd: Mer 17 Hyd 2007 6:04 pm
gan eifs
mae na un da yn abertawe, gwerthu pethau fel bara, cig, pysgod, llysiau a ffrwythau dan do

Re: Marchnad fawr barhaol yn gwerthu cynnyrch lleol?

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:28 am
gan Ffwlbri
Dwi'n gweld bod yr edefyn hwn wedi bod yn segur ers tro, ond dwi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth pwysig a hynod o berthnasol ar hyn o bryd.

Bum mewn cyfarfod yn ysgol Llanfrothen heno am sut i weithio tuag at gymuned leol gynaliadwy, ac un o'r prif bethau oedd pobl yn ymdiddori ynddo oedd bwyd lleol. Mae llawer eisiau cael allotments er mwyn gallu tyfu eu bwyd eu hunain, ond roedd tipyn o drafod hefyd am sut y gellid gwella marchnata a dosbarthiad cynnyrch lleol, efallai trwy ryw fath o system co-op, neu drwy cael bocsys, neu stondin marchnad. Dyma'r thema mae'r grwp newydd (mor newydd nad oes enw iddo eto!)wedi dewis i weithio arno yn y misoedd nesaf.

Pwynt arall, sydd yn hollol ar wahan i'r cwestiwn am fwyd lleol, yw'r nifer o bobl Cymraeg sydd yn ymdiddori yn y math yma o beth. Fel cyfieithydd yr es i i'r cyfarfod hwn, ac roedd hi'n biti mawr gen i gweld cyn lleied o bobl gwirioneddol lleol yno. Roedd 5 o siaradwyr Cymraeg, dwy ohonnynt yn drefnwyr ac un cyfieithydd, i tua 10 o siaradwyr Saesneg. Mae mynd i gyfarfodydd yn atgas gan lawer o bobl fe wn, a fedra i ddim gweld bai arnyn nhw. Efallai hefyd na fu digon o hysbysebu, neu bod bobl heb glywed am y peth, neu yn brysur, ond yn dal, roeddwn i'n disgwyl gwell gynrychiolaeth gan bobl lleol. Ta waeth, dim ond newydd ddechrau mae'r grwp, ac mae wir angen pobl i ymuno a chymeryd rhan er mwyn gwneud hyn yn fenter cynaliadwy a lleol yng ngwir ystyr y gair, yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei rhedeg gan ymddeoliaid o Bromsgrove (nid bod gen i unrhyw beth yn eu herbyn nhw, dallta, ond i mi tydyn nhw ddim yn cynrychioli fy nhgymuned). Mae'r cyfarfod nesaf ar y 28ain o Chwefror, os oes gen ti, Gai, neu unrhyw un arall ddiddordeb, byddai'n wych eich cael yno. Os hoffet wybod mwy am y peth, dyro neges i mi ar maes-e, ac fe wnaf yn siwr fy mod yn ymateb.

Dwi wedi dod i'r casgliad, yn raddol bach, mai trwy weithredu'n lleol, ar raddfa bach, mae newid y byd.

Re: Marchnad fawr barhaol yn gwerthu cynnyrch lleol?

PostioPostiwyd: Sad 08 Maw 2008 10:24 am
gan Gai Toms
Dam! Fethais dy neges Ffwlbri! Sori.

e-bostia post@sbensh.com

Re: Marchnad fawr barhaol yn gwerthu cynnyrch lleol?

PostioPostiwyd: Maw 18 Maw 2008 1:46 pm
gan Prysor
newydd weld yr edefyn yma wrth smyrffio'r maes...

gweld nad oes rhaid bod yn lleol (i Lanfrothen) i fod yn rhan o'r grwp, felly? Dwi am holi tro nesa dwi yn y Ring. Ma'n swnio'n syniad da. Fysa alotment cymunedol yn gret. Dwi ond yn byw 6 milltir i ffwrdd eniwe (hannar hynny os fyswn i'n fran) - dim rhy bell i fynd i dendio'r rwdins.

Re:

PostioPostiwyd: Maw 18 Maw 2008 9:29 pm
gan Norman
Dwlwen a ddywedodd:Wy'n byw yng Nghaerdydd, lle ma gyda ni farchnad barhaol wych, a marchnad wythnosol Glanyrafon - ond fydden i'n dwli gweld cynhyrchwyr lleol yn cymryd cam uchelgeisiol tebyg i fodel Unicorn.

Yn fras - o'n i jyst yn popio mewn i ddweud 'mod i ddim yn meddwl bod ti'n or-obeithiol. Ond me'n amlwg am gymryd tipyn o waith caled a chyd-weithrediad cyn perswadio pobl bod budd mewn stopio dibynnu ar yr archfarchnadoedd enfawr o-mor-hawdd, a dechrau cymryd bach o gyfrifoldeb dros yr hyn ry'n ni'n prynu...

o.n. wy newydd sylweddoli bodco-op bwyd yn bodoli eisoes ar 'y'n stepen drws i, felly sdim esgus pen yma rhagor, os e! :wps:


Marchnad wythnosol wedi cychwyn ym mhen arall o Gaerdydd 'fyd. . . Ar Stryd Keppoch [rhwng City a Albany Rd]
9.30yb tan 12.30, pob dydd Sadwrn. Wele Stori ar Ffermio /Grwp Flickr.

Re: Marchnad fawr barhaol yn gwerthu cynnyrch lleol?

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 11:39 pm
gan Duw
Mae ein ffordd o fyw wedi mynd i'r diawl. Archfarchnadoedd a "Chains" (Spar, Bargain Booze) yn bobman. Dwi'n cofio hen siope'r pentref ym Mrynaman pan yn grwtyn - siope preifat, y rhan fwyaf yn gwerthu nwyddau lleol. Siope Glyn-y-Fol, Laria, Gwilym a sawl un arall (gan gynnwys 3 cigydd a 2 popty). Roedd pawb a'i ardd ac yn tyfu ffrwythau a llysiau eu hunain. Ele ni lan y mynydd i hela cnau, lawr y cwm i pigo mwyar (a drws nesa i dwgyd gwsberis). Roedd bwyd ffres yn bobman. Doedd na ddim shwd beth a ffrwythau egsotig - beth affar oedd pinafal neu ciwi? Gaethon ni ambell banana a grawnwin gyda pips yn y diawled (ger llaw - allwch chi ffeindio grawnwin gyda pips dyddie ma?). Roedd pawb yn iachus (heb law pan wnaeth 50 mlynedd o smoco ffags a yfed cwrw Buckleys dal lan a chi).

Lle ydy'r dewis heddi? Archfarchnad rhyw 4/7 milltir i ffwrdd yn Ystalyfera/Rhydaman. Dyna walocs!

Rydym wedi colli cymaint o dir wrth "brynu mewn" i'r math hwn o fywyd, er mae'n ymddangos bod y chwant yna i gildroi'r llanw. Nwyddau organig - nid fel y stwff sy'n costio ffortwn mewn plastig a polystyrin yn Tesco, ond stwff go dda gyda phridd a chachu arno - yw beth mae rhieni cyfrifol am fwydo eu plant. Mae cyfle gan bawb i gefnogi mentrau o'r fath, ond dim ond llwyddiant trwy gwneud elw sydd yn mynd i sicrhau dyfodol i'r marchnadau hyn. Hefyd, mae'n rhaid ein bod ni'n gwneud stand yn erbyn yr archfarchnadoedd a gwrthod prynu eu nwyddau lle bo modd.

Mae Pont-y-clun newydd wedi colli ei brwydr i atal adeiladu Tesco Express, er bod Tesco ExtraExtraExtra rhyw 2 milltir lawr yr heol a bod bloedd unfryd wedi mynd at gynghorwyr. Dyma battleground newydd yr archfarchnadoedd. Mae eu rhan o'r farchnad out-of-town bron yn ddirlawn - y brwydr nawr yw'r pentrefi, a chystadlu yn uniongyrchol a'r siope bychain.

Mae pentrefi unigol pob amser n mynd i golli'r frwydr hon. Mae angen ymgyrch cenedlaethol i annog pawb i osgoi siopa yn yr uffern a ydy archfarchnad.