Ffrwyth Hynafol Cymru

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffrwyth Hynafol Cymru

Postiogan huwwaters » Maw 20 Tach 2007 6:50 pm

Erthygl yn y Western Mail heddiw:

Western Mail a ddywedodd:THEY’RE the long-forgotten native fruit trees that once kept medieval Wales fed long before the days of the supermarket Golden Delicious.

Nestling in the shadow of Conwy’s town walls, an unloved patch of scrubland contains the last remnants of a centuries-old orchard containing rare varieties of apples, pears and the unusual Denbigh plum.

But a campaign has now begun to restore the untended site, crammed with the finest Welsh fruits of yesteryear, to its former glory.


Gweddill yr erthygl yma: http://icwales.icnetwork.co.uk/news/wales-news/2007/11/20/campaign-to-restore-rare-fruit-orchard-91466-20131595/

Yn ogsytal â'r erthygl yma, dwi'n gwbad fod nhw wedi ffindio math o goeden 'fale ar Ynys Enlli sydd yn unigryw.

Oes bosib bod mwy o blanhigion fel yma yng Nghymru nad oes neb yn gwbad eu bod yn wahanol i'r prif ffrwyd o blanhigion?

Dylid sefydlu corff annibynol i oruwchwylio, neu un o dan adran amgueddfeydd neu rywbeth, a gwneud yn siwr fod pethe fel yma'n cael eu diogelu?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan 7ennyn » Maw 20 Tach 2007 9:27 pm

Mae afalau cwcio Mon yn chwedlonol. Roedd yna goeden yng ngardd fy nhaid a nain hyd nes yn ddiweddar. Mae nhw'n afalau anferth - mi fedri di lapio dy ddwylo rowndyn nhw heb i flaenau dy fysedd allu cyffwrdd eu gilydd. Mae ganddyn nhw groen gwyrdd golau caled, mae nhw braidd yn sur, ac mae nhw'n troi'n frown yn syth ar ol plicio'r croen. Un flwyddyn mi gafwyd tua hanner tunnell o gnwd - o un goeden! - ar fy marw!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Macsen » Mer 21 Tach 2007 8:56 am

Ian Sturrock o Fangor yw'r dyn i siarad hefo fo os ydach chi'n darganfod unrhyw ffrwythau unigryw. Mae o'n eu casglu a'u meithrin nhw. Gen i un o'i goed afal enlli yn yr ardd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys » Mer 21 Tach 2007 9:32 am

Mae'n hurt braidd mai canran bychan iawn o'r afalau rydym yn brynnu sy'n dod o Brydain, mae'r rhan fwya o Selanand Newydd neu de America. Dwi wrth fy modd â Egremont_RussetEgremont Russet.

Mi oed na stori ar y newyddion am rhywbeth tebyg i beth sydd yn digwydd yn Conwy yn cymeryd lle yng Nghas Gwent ble roedd ail-blannu perllannoedd a gwmpas y dref.

Dwi'n meddwl bod Coed Cymru'n annog pobl i ail-blannu/gwarchod eu perllanoedd, ond welai ddim ar ei gwefan.

Dylai pawb fod â choedoen ffrwyth yn ei gardd, unwaith mae wedi sefydlu, does dim angen gwneud fawr dim iddo pob blwyddyn, mond casglu'r ffrwyth.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Mer 21 Tach 2007 5:38 pm

Mae yna boblogaeth bach o’r goeden Sorbus Domesitca (Whitty Pear, Service Tree),sydd efo ffrwyth, ar arfordir Bro Morgannwg. Mae hwn yn goeden prin drosd Ewrop. Tan yn ddiweddar, credywd mae ond un coeden cynhenid oedd ym Mrhydain, yn Fforest Wyre, Wocesterchire. Ond yn 1983 darganfyddwyd poblogaeth o’r coed ym Mro Morgannwg.

Dwi wedi gweld y coed fy hunan, sydd yn tyfu ar ben clogwyni uchel yr arfordir, ger Parc Wledig Porthceri wrth Y Bari. Mae ganndynt ffrwyth bach coch:

Delwedd

Y dyfyniad yma yn ddiddorol:

Despite there being historical references in Welsh poetry dating back to the 9th century, the Wyre individuals were for a long time thought to be the only known living trees which might still hold the genes of native S.domestica in the Britain.


Mae hwn yn damcanu fod y ffrwyth yn cael eu ddefnyddio i wneud diod meddwol, fod y rhufeiniad yn ei ddefnyddio i wneud 'cevevisia', sef gwraidd yr enw 'service' tree. Mae hyn yn awgrymu fod Prydeinwyr/Cymru wedi cario mlaen defnyddio y ffrwyth ar ol amser y Rhufeiniaid.

Unrhyw synaid da rhywun be di’r enw Cymraeg am y goeden neu y ffrwyth?

Gwybodaeth:

http://www.watsonia.org.uk/Wats20p379.pdf

http://wbrc.org.uk/worcrecd/Issue7/whittyp.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Ffrwyth Hynafol Cymru

Postiogan S.W. » Maw 22 Ion 2008 2:53 pm

unusual Denbigh plum


Nid y tro cyntaf i un weld yr enw Denbigh a'r gair unusual yn yr un frawddeg!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron