Wn i ddim faint o bobl sydd wedi dod ar draws y Papur Gwyrdd, cylchgrawn ecolegol cymraeg cymharol newydd, ond gwelais rhywbeth yn y rhifyn diweddaraf wnaeth i mi feddwl. Yn rhifyn 3, roedd erthygl gan Dafydd Watkin oedd yn gofyn:
"Ydi pwnc newid hinsawdd o bwys i Gymru Cymraeg? Yn aml iawn, nid yw materon amgylcheddol wedi cael y sylw dyledus ymhlith siaradwyr Cymraeg. Ystyrir bod materion gwyrdd fel petai o ddiddordeb i'r di-Gymraeg"
Fy ymateb gyntaf oedd bod hyn yn gwbl anheg, rwyf fi yn siaradwr Cymraeg ac wedi bod yn ymboeni ynghylch materon amgylcheddol ers oeddwn yn blentyn. Ond wedyn, fel yr ydw i wedi son mewn edefyn arall, bum mewn cyfarfod ar ddatblygu cynaliadwy yn fy ardal lleol, a gweld bod y rhan fwyaf o'r bobl ddaeth i'r cyfarfod yn bobl ddwad, saesneg eu hiaith. Hefyd rwy'n ymwybodol fod llefydd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen yn Machynlleth yn eithaf saesnegaidd. Tydi hyn ddim yn gynrychiolaeth deg o'r holl waith amgylcheddol sy'n mynd ymlaen, fe wn, ond mae ymgyrchoedd amgylcheddol yn aml wedi cael eu cysylltu a demograffig arbennig, a hwnnw ar y cyfan yn un di-gymraeg. Ydi'r ddelwedd o fudiadau amgylcheddol fel rhywbeth sy'n perthyn i 'hipis Saesneg' yn rhywbeth sy'n nadu pobl cymraeg eu hiaith rhag ymuno? A ble mae'r hipis Cymraeg? Os oes 'na gysylltiad rhwng agweddau cymdeithasol a'r math o ymgyrch mae pobl yn ei gefnogi, pam? Onid ydi dyfodol y blaned yn effeithio arnom ni i gyd? Neu ydi'r feirniadaeth yn hollol anghywir, oes 'na garfan o amgylcheddwyr cymreigaidd yn rhywle nad ydw i wedi dod ar eu traws nhw eto?
O edrych dros y pynciau o dan 'amgylchedd a chynaladwyedd' yma ar maes-e, mae hi'n amlwg bod pobl yn ymdiddori yn yr amgylchedd. Ond, mae'n edrych i mi fel bod hyn ar y cyfan yn ddiddordeb ym myd natur, mewn 'nabod rhywogaethau, mewn gwylio, yn hytrach na gweithredu. Cywirwch fi os ydw i'n rong, ond wela i ddim llawer o syniadau radical yma. Mae newid hinsawdd yn fygythiad o ddifri i'n ffordd ni o fyw yn y Gorllewin, sy'n gofyn am newidiadau go bellgyrhaeddol os ydan ni am osgoi'r effeithiau gwaethaf. Beth wnawn ni?