gan Gai Toms » Gwe 25 Ion 2008 1:30 pm
Digon teg. Ti'n iawn bod Saeson, neu unrhyw berson sydd yn ieithyddol 'gyfforddus', yn gallu byw bywyd heb orfod meddwl am eu rhyddid, ac yn gallu sianelu eu egni tuag at phethau eraill fel yr amgylchedd. Ond dwi siwr bod na lot o Gymry allan yna'n rhywle yn blaenoriaethu'r byd cyn eu hiaith? A mae'n siwr bod lot o Saeson cyffredin ddim yn ymwybodol o argyfwng cynhesu byd eang?
Dwi wrthi'n gwneud album 'werdd', wel... mor werdd a gallai efo'r budget, a dwi'n teimlo'n gryfach at hynny, fel Cymro, nac at rali nesa C.Y.I. I ddweud y gwir, er fy mod i'n aelod, dwi reit hopless am weithredu'n uniongyrchol dros C.Y.I. Ond mae na le i Gymry weithredu mewn dulliau eraill, hynny yw, yn ddi-ymwybodol (anuniongyrchol) dros yr iaith, yn hytrach na yn 'ymwybodol' (uniongyrchol) dros yr iaith. Mae angen y cyd-bwysedd, neu fel arall wyt ti mynd i gael y siaradwyr Cymraeg i gyd yn byw bywyd 'ymwybodol' (not for granted) Gymreig. Dwi ddim yn golygu hyn a dweud bod y Cymry 'di-ymwybodol' ddim yn ymwybodol o'u hunaniaeth, jyst eu bod nhw lwcus o allu byw bywyd 'di-ymwybodol' yn Gymraeg. Er enghraifft, dwi nabod plymar o Flaenau Ffestiniog sydd ddim yn aelod o C.Y.I. ac yn byw ei fywyd yn gwbl Gymraeg, ond mae o wedi bod ar gwrs gosod Solar Panels. Felly, mae o, ar raddfa fach, yn gweithredu dros gynaliadwyaeth a'r amgylchfyd heb feddwl am protestio dros CYI. Mae pobl fel hyn yr un mor bwysig ag unrhyw rali C.Y.I. Rwyf fi yn codi fy het i'r ddau senario!
Ond yn ol i'r pwynt, mae'n siwr mae'n cymeryd math arbennig o berson i brotestio dros unrhywbeth, a'r math hwnnw ydi'r person 'ymwybodol'. Ond gall unrhywun weithredu. Sdim raid i ti brotestio i dorri lawr ar CO2, ti jyst yn ei wneud o dy hun. Egwyddor personol ydi tori lawr ar CO2. Jyst mynd i'r rali ar geffyl! Sa hynna'n sgam arbennig i C.Y.I!