Tudalen 2 o 2

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 11:49 am
gan Gai Toms
Rhys, dwi ddim yn deall y drafodaeth rhwng y Cymry a'r Saeson yn ystyr yr amgylchedd. Wyt yn cyfeirio at bobl cyffredin Cymru a Lloegr? Ta bobl amgen / hipis dosbarth canol? Ta cwmniau mawrion Saesnig i'w gymharu a cwmniau Cymraeg, cwmniau sy'n llygru? Pam ddylsa ni ddathlu ein rhyddid fel Cymry cyn dathlu safiad y ddynoliaeth? Yn fy marn i, gall Cymru fod ar yr un shilff a gwledydd fel yr Almaen a Norwy, a dangos esiampl i wledydd eraill o sut i fod yn gynaliadwy ac yn 'wyrddach'. Wyt ti'n dweud ein bod ni angen sortio ein hunaniaeth ac ein annibyniaeth i allu gwireddu hyn?

P.S. Ydi 'Poeni' yn fod i olygu 'gweithredu' yn y drafodaeth yma?

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 12:22 pm
gan Rhys Llwyd
O edrych arna i fel anghriafft Gai. Dwi yn poeni ac yn gwneud yr hyn fedrai. Ond os fydda na rali cynhesu byd eang ddydd Sadwrn mewn un tre a rali Cymdeithas yr Iaith mewn tre arall does dim dwywaith mae i'r un CYIG sw ni'n dewis mynd iddo. Ond os na fuase gyda ni iaith sydd angen cwffio drostio fydda gan bobl fel fi (a chdi?!) fwy o amser i weithredu dros yr amgylchedd.

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 1:30 pm
gan Gai Toms
Digon teg. Ti'n iawn bod Saeson, neu unrhyw berson sydd yn ieithyddol 'gyfforddus', yn gallu byw bywyd heb orfod meddwl am eu rhyddid, ac yn gallu sianelu eu egni tuag at phethau eraill fel yr amgylchedd. Ond dwi siwr bod na lot o Gymry allan yna'n rhywle yn blaenoriaethu'r byd cyn eu hiaith? A mae'n siwr bod lot o Saeson cyffredin ddim yn ymwybodol o argyfwng cynhesu byd eang?

Dwi wrthi'n gwneud album 'werdd', wel... mor werdd a gallai efo'r budget, a dwi'n teimlo'n gryfach at hynny, fel Cymro, nac at rali nesa C.Y.I. I ddweud y gwir, er fy mod i'n aelod, dwi reit hopless am weithredu'n uniongyrchol dros C.Y.I. Ond mae na le i Gymry weithredu mewn dulliau eraill, hynny yw, yn ddi-ymwybodol (anuniongyrchol) dros yr iaith, yn hytrach na yn 'ymwybodol' (uniongyrchol) dros yr iaith. Mae angen y cyd-bwysedd, neu fel arall wyt ti mynd i gael y siaradwyr Cymraeg i gyd yn byw bywyd 'ymwybodol' (not for granted) Gymreig. Dwi ddim yn golygu hyn a dweud bod y Cymry 'di-ymwybodol' ddim yn ymwybodol o'u hunaniaeth, jyst eu bod nhw lwcus o allu byw bywyd 'di-ymwybodol' yn Gymraeg. Er enghraifft, dwi nabod plymar o Flaenau Ffestiniog sydd ddim yn aelod o C.Y.I. ac yn byw ei fywyd yn gwbl Gymraeg, ond mae o wedi bod ar gwrs gosod Solar Panels. Felly, mae o, ar raddfa fach, yn gweithredu dros gynaliadwyaeth a'r amgylchfyd heb feddwl am protestio dros CYI. Mae pobl fel hyn yr un mor bwysig ag unrhyw rali C.Y.I. Rwyf fi yn codi fy het i'r ddau senario!

Ond yn ol i'r pwynt, mae'n siwr mae'n cymeryd math arbennig o berson i brotestio dros unrhywbeth, a'r math hwnnw ydi'r person 'ymwybodol'. Ond gall unrhywun weithredu. Sdim raid i ti brotestio i dorri lawr ar CO2, ti jyst yn ei wneud o dy hun. Egwyddor personol ydi tori lawr ar CO2. Jyst mynd i'r rali ar geffyl! Sa hynna'n sgam arbennig i C.Y.I!

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 1:38 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi’n meddwl bod hi’n annheg i ddweud bod y Cymry Cymraeg ddim yn poeni am yr amgylchedd. Mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu sydd yn gwneud eu ‘bit’ i amddiffyn yr amgylchedd. Mae fy mam a thad, er enghraifft, newydd wario cryn arian i greu ardal cadwraeth ger eu tŷ, heb unrhyw grant gan gyrff cyhoeddus. Maen nhw hefyd yn wrthi newid hen gytiau mewn i dai newydd ac ymgeisio defnyddio technoleg wyrdd. Roedd o nhw yn gobeithio defnyddio pwer-gwynt er mwyn rhoi trydan yn y tai ond cafodd ei wahardd gan y cyngor oherwydd bod nhw’n byw mewn ‘area of outsanding beauty’. (Eironig, ymgeisio amddiffyn yr amgylchedd ond cael eu stopion gan reolau amddiffyn yr amgylchedd).

Ond ydi’r fath yma cyhuddiad wedi cael ei wneud o’r blaen tybed ? Ydi hyn yr un peth am bobl sydd yn cwyno am ar y pres sydd yn mynd i ‘translation and S4C’, ac yn mynnu bod yr arian yn mynd i’w ‘schoolsn’hospitals’ ?

Beth am rai sydd yn mynnu bod yr iaith Gymraeg yn dal ni nol yn y byd busnes a masnach achos rydym yn mynnu hybu iaith hynafol sydd heb unrhyw ddefnydd tu allan i Gymru? A buasai’n well i blant Cymraeg i ddysgu iaith tramor yn lle ? maen nhw’n gofyn.

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 11:15 am
gan Ar odre'r Moelwyn
Dyma dipyn bach o newyddion da o ymgyrch amgylcheddol yn y De. Cymuned leol yn ennill brwydr i warchod coetir hynafol lleol. Llongyfarchiadau i chi, bobl Gwenfo a Llanfihangel-y-pwll!

http://www.treeforall.org.uk/Cymru/News ... oncrid.htm

Re: Y Gymraeg a'r Amgylchedd

PostioPostiwyd: Maw 19 Chw 2008 12:39 pm
gan S.W.
Dwi'n meddwl bod Cymry Cymraeg yr un mor tebygol o geisio wneud eu rhan i amddiffyn yr amgylchedd nag unrhyw 'grwp' cymdeithasol arall.

Dwi'n neud pwynt o ailgylchu pob dim gallai - gan gynnwys cylchgronnau Tafod a stwff eraill CYI! Mae'r Cyngor yn casglu stwff gen i a dwi'n cadw cardbwrdd a poteli plastig ac yn mynd a nhw i ganolfan ailgylchu pryd bynnag byddaf angen mynd heibio un beth bynnag. Dwi'n ceisio tori lawr ar fy nefnydd o'r car hynny gallai - yn anffodus dwi'n gweithio 26 milltir i ffwrdd o fy nhy ac yn gorfod dreifio yno. Dwi di gosod bylbiau 'egni isel' ymhob un golau sydd gen i yn fy nhy, ac yn bwriadu rhoi insulation yn yr atic haf yma. Dwi hefyd wedi tori lawr yn aruthrol ar y gwastraff sy'n dod o fy swyddfa. Dwi hefyd am ddechrau compostio. Dwi'n credu bod angen i ni wneud mwy.

O ran dadl Rhys bod Saeson (ac eraill) ddim yn gorfod poeni am yr iaith ac ati, dwi'm yn credu bod hynny'n dal dwr. Yn syml dio'm yn fater o bobl yn dewis rhwng y ddau. I fi mae'r ddau yn gysylltiedig. Mae amddiffyn amgylchedd Cymru a'r byd o#n cwmpas yn dod o'r un meddylfryd sydd gen i o blaid amddiffyn yr iaith Gymraeg - bydd Cymru'n wanach os byddwn yn parhau i ddinistrio'r ddau yn fy marn i. Mae'r un wrth wraidd fy nghenedlaetholdeb - dwi'n credu bydd Cymru'n well wedi annibyniaeth yn yr un modd byddai'n well petawn yn poeni mwy am yr amgyrchedd sydd gennym.