Tudalen 1 o 1

Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 2:00 pm
gan Rhodri Nwdls
Welodd rhywun y stori hon ar wefan y BBC ddydd Mawrth?

'Deunydd melyn': Cau traeth

Dwi newydd sylwi ar ddau bwll o ddŵr, un yn Llanbadarn ac un ar gampws Penglais yn Aber, sydd efo olion melyn wedi sychu rownd ochr y dŵr. Mae'n rhaid fod rhywbeth wedi dod lawr yn ystod y glaw neithiwr a bora ma. Sgen i os taw wedi anweddu o'r môr oedd o a dod lawr yn y glaw

Di'r sdwff yn saff dwch? Be goblyn?

Re: Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 2:16 pm
gan Macsen
Mae'r cyngor wedi dweud fod y deunydd yn "drewi".


Delwedd

Re: Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 3:20 pm
gan Kez
Welas i un o ffimiau Steve McQueen unwaith o'r enw 'The Blob' - http://www.imdb.com/title/tt0051418/

Dyma'r 'tagline' i'r ffilm - Beware of the Blob! It creeps and leeps and slides across the floor.

Byddwch yn ofalus yn Aberystwyth :ofn:

Re: Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 3:52 pm
gan Kez
Panig yn Aberystwyth!!



Re: Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 4:03 pm
gan Macsen
Mae Aberystwyth wedi bod fel 'na ers i fi symud i mewn chydig fisoedd yn ol.

Re: Sdwff melyn yn y dŵr

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 4:26 pm
gan Rhodri Nwdls
Diawl da ni di arfar efo cael llond y lle o Blobs yn cymryd drosodd y Gorllewin...ma'r trên o Birmingham yn shipio nhw mewn bob ha.

Ella taw Dai Jones sydd wedi cael dos go ddrwg o'r milgi melyn?

FFWC! Ma'i di cychwyn bwrw!