gan huwwaters » Mer 16 Ebr 2008 1:33 pm
Rooney, ydi mae'r byd yn oeri achos bod ni ar ein ffordd at oes iâ arall, ond ar yr un pryd mae dyn yn creu effaith tŷ gwydr ar yr atmosffêr.
I ti gael dallt cer fewn i conservatory neu unrhyw adeilad sydd llawn ffenestri a mi wnei di sylwi ei fod yn dal y gwres. Rheswm dros hyn yw fod pelydrau UV sydd a tonfedd isel yn treiddio fewn i conservatory nag y mae pelydrau is-goch sydd a thonfedd uwch yn llifo allan. Canlyniad hyn ne net gain o wres. Rwan yn lle fod ne paen o wydr, dychmyga haenen o sylweddau sy'n arafu llif o wres allan i'r gofod.
Yn 2006 bu farw miloedd ym Mharis er enghraifft oherwydd hear wave. Mae heat waves yn digwydd yma ac acw yn naturiol. Y rheswm dros y nifer uwch o farwolaethau yw fod y gwres wedi bod yn un parhaol. Hynny yw yr oedd hi yr un mor boeth yn y nos ag oedd hi yn y dydd. Mae corff anifail angen oeri tra'n cysgu i allu ymlacio. Mae corff dyn yn mynd lawr o tua 37 gradd i 36. Gall newid bach fel yma gadael i'r corff ymlacio. Be mae hyn yn dangos yw fod gwres di cael ei drapio uwchben Paris am ba bynnag resymau sydd ddim yn naturiol.
Dwi'n astudio Ffiseg yn y coleg a wedi neud arbrawf fy hun sy'n profi cynhesu byd eang. Tydio ddim byd cymhleth, mwy o ddangos thermal absorption ac emissions nwyon. H.y. nwy yn absugno gwres, ac yna yn ei allyrru fel pelydrau isgoch (gwres) nes ymlaen.
Ffactor arall sydd yn achosi'r effaith cynhesu byd eang ma yw anwedd dŵr yn yr aer. Cynnyrch resbiradaeth (anadlu) yw anwedd dwr, felly y mwya di poblogaeth y byd, y mwya di'r anwedd dŵr yn yr aer. Yn drist iawn, mae trychinebau o fudd i'r amgyclhfyd.
Petai ni yn deud nad yw cynhesu byd eang yn digwydd yna mae dal llawer iawn o broblemau yn deillio. Gormod o Carbon Deuocsid yn codi asidedd y moroedd, llynoedd ac afonydd. Dyma sut mae glaw yn bwyta carreg a difetha hen adeiladau. Mae'r cymylau yn cymysgu efo CO2, yn troi'n asidig ac yn dadfeilio cerrig. Os ti'n ychwanegu cemegion dynol at yr hafaliad, mae'r glaw digon asidig i ladd coed etc. Yn y wlad yma diwedd y 1940au yr oedd angen cyflwyno Clean Air Act (pobol marw), mae Los Angeles wedi cael problemau smog yn ogystal a fydd Beijing adeg yr Olympics oll oherwydd nwyon llygredig o bwerdai a cheir. Mae landfil yn llenwi, a pherthe fel cyngor Lerpwl yn dympio eu sbwriel yn Wrecsam, llefydd erill ddim yn gwbad beth i'w wneud efo sbwriel a phobol yn anghofio fod ffynonellau pethe fel glo, alwminiwm a dur yn gyfyng a ddim yn rhai anfeidrol.
Hyd yn oes os nad yw cynhesu byd eang yn digwydd, mae'r holl prosiectau sy'n dilyn ganddynt o fudd i bopeth yn y paragraff isod. Felly hyd yn oes os byse rhywun yn deud na celwydd llwyr ydi'r holl beth fod y byd yn cynhesu, byswn i'n deud so what gan gofio fod yr effeithiau uchod wedi eu lleihau. Fedri di rooney na unrhyw un sydd â diddordebau economaidd arall ddim gwadu yr effeithiau uchod.
Huw