Mae'r ddaear yn oeri!

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Maw 15 Ebr 2008 11:55 pm

Ers 1998 mae'r ddaear wedi oeri. Mae "global warming" yn scam gyfeillion. Dyna pam mae nhw'n galw fe'n "climate change" bellach.

http://www.telegraph.co.uk/opinion/main ... world.html

"Consider the simple fact, drawn from the official temperature records of the Climate Research Unit at the University of East Anglia, that for the years 1998-2005 global average temperature did not increase (there was actually a slight decrease, though not at a rate that differs significantly from zero)."
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Muralitharan » Mer 16 Ebr 2008 12:13 am

Y Telegraph sy'n rhoi'r imprimatur ar dy syniadau di??!!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Mer 16 Ebr 2008 12:15 am

Wyt ti'n gwadu'r dystiolaeth o'r Brifysgol? Pam?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Mwlsyn » Mer 16 Ebr 2008 12:14 pm

rooney a ddywedodd:Ers 1998 mae'r ddaear wedi oeri. Mae "global warming" yn scam gyfeillion. Dyna pam mae nhw'n galw fe'n "climate change" bellach.

http://www.telegraph.co.uk/opinion/main ... world.html

"Consider the simple fact, drawn from the official temperature records of the Climate Research Unit at the University of East Anglia, that for the years 1998-2005 global average temperature did not increase (there was actually a slight decrease, though not at a rate that differs significantly from zero)."


Cyn neidio ar y bandwaggon gwrth-dwymo, edrycha ar y dystiolaeth gynta. Dyma graff o'r cynhesu byd-eang ers 1975. Gelli di weld pam fod dim newid wedi bod ers 1998: roedd 1998 yn annaturiol o dwym oherwydd ffenomenon El Nino yn y Môr Tawel. Os gymri di'r blynyddoedd 1999-2005, mae yna duedd amlwg. Ond gan fod cymaint o newid yn digwydd o fewn ystod o deng mlynedd, rhaid edrych yn ehangach - dros 30 mlynedd, er enghraifft - i weld fod y tuedd cynhesu yn bodoli heb unrhyw amheuaeth.

A dyw awdur y polemic 'na o'r Telegraff - Bob Carter - ddim yn wyddonydd hinsawdd; daearegwr yw e. Ydy e'n bosib fod ei ymchwil ar ran y diwydiant olew wedi lliwio'i agwedd ar wyddoniaeth hinsawdd?
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Mr Gasyth » Mer 16 Ebr 2008 12:27 pm

Fyddai neb sy'n deall unrhywbeth am y cysylltiad rhwng datblygiad gwaraeddiad dynol a'r hinsawdd yn sgwennu brawddeg for ddwl a hon:

We are fortunate that our modern societies have developed during the last 10,000 years of benignly warm, interglacial climate.


Mae cymdeithas fodern wedi gallu datblygu oherwydd hinsawdd y 10,000 mlynedd diwetha. Nid cyd-ddigwyddiad ydi hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Muralitharan » Mer 16 Ebr 2008 12:36 pm

Mae gen ti fwy o amynedd na fi, Mr Gasyth!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan ffwrchamotobeics » Mer 16 Ebr 2008 12:59 pm

O diar . am ffwcin rwtsh.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan huwwaters » Mer 16 Ebr 2008 1:33 pm

Rooney, ydi mae'r byd yn oeri achos bod ni ar ein ffordd at oes iâ arall, ond ar yr un pryd mae dyn yn creu effaith tŷ gwydr ar yr atmosffêr.

I ti gael dallt cer fewn i conservatory neu unrhyw adeilad sydd llawn ffenestri a mi wnei di sylwi ei fod yn dal y gwres. Rheswm dros hyn yw fod pelydrau UV sydd a tonfedd isel yn treiddio fewn i conservatory nag y mae pelydrau is-goch sydd a thonfedd uwch yn llifo allan. Canlyniad hyn ne net gain o wres. Rwan yn lle fod ne paen o wydr, dychmyga haenen o sylweddau sy'n arafu llif o wres allan i'r gofod.

Yn 2006 bu farw miloedd ym Mharis er enghraifft oherwydd hear wave. Mae heat waves yn digwydd yma ac acw yn naturiol. Y rheswm dros y nifer uwch o farwolaethau yw fod y gwres wedi bod yn un parhaol. Hynny yw yr oedd hi yr un mor boeth yn y nos ag oedd hi yn y dydd. Mae corff anifail angen oeri tra'n cysgu i allu ymlacio. Mae corff dyn yn mynd lawr o tua 37 gradd i 36. Gall newid bach fel yma gadael i'r corff ymlacio. Be mae hyn yn dangos yw fod gwres di cael ei drapio uwchben Paris am ba bynnag resymau sydd ddim yn naturiol.

Dwi'n astudio Ffiseg yn y coleg a wedi neud arbrawf fy hun sy'n profi cynhesu byd eang. Tydio ddim byd cymhleth, mwy o ddangos thermal absorption ac emissions nwyon. H.y. nwy yn absugno gwres, ac yna yn ei allyrru fel pelydrau isgoch (gwres) nes ymlaen.

Ffactor arall sydd yn achosi'r effaith cynhesu byd eang ma yw anwedd dŵr yn yr aer. Cynnyrch resbiradaeth (anadlu) yw anwedd dwr, felly y mwya di poblogaeth y byd, y mwya di'r anwedd dŵr yn yr aer. Yn drist iawn, mae trychinebau o fudd i'r amgyclhfyd.

Petai ni yn deud nad yw cynhesu byd eang yn digwydd yna mae dal llawer iawn o broblemau yn deillio. Gormod o Carbon Deuocsid yn codi asidedd y moroedd, llynoedd ac afonydd. Dyma sut mae glaw yn bwyta carreg a difetha hen adeiladau. Mae'r cymylau yn cymysgu efo CO2, yn troi'n asidig ac yn dadfeilio cerrig. Os ti'n ychwanegu cemegion dynol at yr hafaliad, mae'r glaw digon asidig i ladd coed etc. Yn y wlad yma diwedd y 1940au yr oedd angen cyflwyno Clean Air Act (pobol marw), mae Los Angeles wedi cael problemau smog yn ogystal a fydd Beijing adeg yr Olympics oll oherwydd nwyon llygredig o bwerdai a cheir. Mae landfil yn llenwi, a pherthe fel cyngor Lerpwl yn dympio eu sbwriel yn Wrecsam, llefydd erill ddim yn gwbad beth i'w wneud efo sbwriel a phobol yn anghofio fod ffynonellau pethe fel glo, alwminiwm a dur yn gyfyng a ddim yn rhai anfeidrol.

Hyd yn oes os nad yw cynhesu byd eang yn digwydd, mae'r holl prosiectau sy'n dilyn ganddynt o fudd i bopeth yn y paragraff isod. Felly hyd yn oes os byse rhywun yn deud na celwydd llwyr ydi'r holl beth fod y byd yn cynhesu, byswn i'n deud so what gan gofio fod yr effeithiau uchod wedi eu lleihau. Fedri di rooney na unrhyw un sydd â diddordebau economaidd arall ddim gwadu yr effeithiau uchod.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Muralitharan » Mer 16 Ebr 2008 1:56 pm

rooney a ddywedodd:Wyt ti'n gwadu'r dystiolaeth o'r Brifysgol? Pam?


Mae dy ffydd-mwya-sydyn mewn gwyddonwyr a gwyddoniaeth yn 'touching' a deud y lleia'.
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Mr Gasyth » Mer 16 Ebr 2008 3:06 pm

Muralitharan a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Wyt ti'n gwadu'r dystiolaeth o'r Brifysgol? Pam?


Mae dy ffydd-mwya-sydyn mewn gwyddonwyr a gwyddoniaeth yn 'touching' a deud y lleia'.


:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron