Mae'r ddaear yn oeri!

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Ebr 2008 8:15 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Delwedd

Rooney, rhoddwyd linc i'r graff uchod yn gynharach yn y drafodaeth, ond dwi'n gwbod nad wyt ti'n un am agor lincs pob eraill heb son am ei ddarllen felly on i'n meddwl baswn i'n bostio fo yma yn uniongyrchol i ti.

1998 ydi'r pig mawr jest cyn 2000 - roedd yn flyddyn anarferol o boeth hyd yn oed wrth safonau poethach nag arfer y degawdau diwetha.

Felly, mae'n iawn i ddeud fod bob blwyddyn erd 1998 wedi bod yn oerach na 1998. Tydi hyn fodd bynnag ddim yn gyfystyr a deud fod tuedd tuag at oeri ers 1998 achos fel y gweli di parhau i godi mae'r graff o 1999, a mae'r ddegawd o 1998 ymlaen wedi bod yn boethach nag yr un o'i blaen.

Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.

Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan? :rolio:
Bach yn rhy wyddonol i rooney fe dybiaf Mr G.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Gwe 18 Ebr 2008 6:58 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.

Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan? :rolio:


mae'r byd wedi oeri ers 1998
llai i ragrith plis- yr wyt ti'n dechrau dy graff ar amser sy'n siwtio dy syniadau di
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Cardi Bach » Gwe 18 Ebr 2008 8:18 pm

rooney a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.

Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan? :rolio:


mae'r byd wedi oeri ers 1998
llai i ragrith plis- yr wyt ti'n dechrau dy graff ar amser sy'n siwtio dy syniadau di


Odd y byd yn gynhesach heddiw nag ydoedd ddoe. Mae ngraff i yn dechrau ddoe ac yn gorffen fory. Ma'r byd yn cynhesu felly. Fi sy'n iawn, so there :P

Na ni, fi wedi bwydo'r trol.
Bring it on rooney.

Rooney - pam na ei di i fyw i'r Maldives am y 10 mlynedd nesa a gweud 'tho nhw nad yw'r ddaear yn cynhesu? Ac ar ol i ti orfod symud o'r Maldives achos bod dy draed di'n rhy lyb cer i fyw i Afghanistan neu Irac a dal dy feibl arbennig ac unigryw yn dy law ar y Sgwar yn Baghdad neu yn Kandahar a dweud fod lladd yn enw Duw yn iawn. Wedyn falle wna i gyfranu eto at y drafodaeth yn dy gwmni.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Gwe 18 Ebr 2008 9:25 pm

syniad cracpot yw mae dyn sydd gyda'r dylanwad mwyaf ar yr hinsawdd, mae'r newidiadau yma'n digwydd yn naturiol
yr oedd yn boethach yn y canol oesoedd o 2 gradd- oherwydd yr holl 4x4s ie?
pam na wnewch chi ddim cyfaddef mae agenda wleidyddol yw hyn i gyd er mwyn trethi pobl ar draws y byd, hysteria heb y data
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan huwwaters » Gwe 18 Ebr 2008 11:10 pm

rooney a ddywedodd:syniad cracpot yw mae dyn sydd gyda'r dylanwad mwyaf ar yr hinsawdd, mae'r newidiadau yma'n digwydd yn naturiol
yr oedd yn boethach yn y canol oesoedd o 2 gradd- oherwydd yr holl 4x4s ie?
pam na wnewch chi ddim cyfaddef mae agenda wleidyddol yw hyn i gyd er mwyn trethi pobl ar draws y byd, hysteria heb y data


Ddim yn logical be ti'n ei ddeud. Os byse pobol yn gwastraffu llai, h.y. gwastraffu llai o fwyd, cerdded mwy etc. byse'n golygu defnyddio llai ar y car, defnyddio llai o danwyddo ac o ganlyniad yn talu llai mewn trethi a duty.

Mae'n arferiad gwyddonol "omit data points" sydd i'w weld way off. Felly os yn edrych ar amrediad o 200 mlynedd, byse dim o'i le o anghofio data am 1998 gan ei fod yn freak neu yn one-off a ddim yn dilyn y trend sydd yn cael ei weld am y 199 mlynedd arall.

Rooney byse fo'n syniad da iawn a buddiol i bawb arall i ti beidio sôn am unrhyw byd ym maes gwyddoniaeth achos ti wirioneddol heb syniad o gwbwl. Dwi'n argymell i ti yn gyntaf darllen ar "scientific report writing" i gael syniad sut mae ymchwil yn cael ei gyflwyno. Pryna gwerslyfrau TGAU i recap ar waith, wedyn pryna lyfrau lefel-A, a pryna rywbeth fel "University Physics/Chemistry". Does dim na neb yn dy rwystro di neud hyn, ond ti'n gwrthod achos ti'n ofni unrhyw wybodaeth sydd a'r bosibilrwydd o newid dy farn.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Mwlsyn » Gwe 18 Ebr 2008 11:59 pm

rooney a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.

Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan? :rolio:


mae'r byd wedi oeri ers 1998
llai i ragrith plis- yr wyt ti'n dechrau dy graff ar amser sy'n siwtio dy syniadau di


Delwedd

Reit, edrycha:


Mae'r byd wedi cynhesu ers 2001
Mae'r byd wedi cynhesu ers 2000
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1999
Mae'r byd wedi oeri ers 1998
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1997
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1996
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1995
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1994
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1993
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1992
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1991
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1990
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1989
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1988
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1987
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1986
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1985
Mae'r byd wedi cynhesu ers 1984
ayyb.

Mae'n hollol amlwg mai ti sy'n dewis yr unig flwyddyn ers pryd mae'r hinsawdd wedi oeri. Ond dyna ni; dwyt ti byth wedi bod yn un am ddefnyddio tystiolaeth :rolio: Cer a dy syniadau gwrth-wyddoniaeth i fforwm llai goleuedig.

(Sori am fwydo'r trol, bois)
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Sad 19 Ebr 2008 12:43 am

rwyt ti'n dewis pryd ti'n cychwyn siarad am y data siwtio dy ddadl
mae wedi oeri ers y canol oesoedd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 19 Ebr 2008 10:57 am

Mae Rooney wedi defnyddio erthygl pitw i cefnogi ei ddadl yn fan yma... beth am iddo fynd i weld adroddiad diweddar yr IPCC (INTERGOVERNMENTAL PANEL ON CLIMATE CHANGE). Mae ganddyn nhw adroddiad hirfaeth wedi selio ar waith canoedd o wyddonwyr, ac mae pob un o'i ddarganfyddiadau yn pwyntio at yr un canlyniad. Mae dynolryw yn cael effaith ar tymheredd y Byd, ac yn fwy penodol yn effeithio arno morgymaint fel ein bod ni yn newid y hinsawdd oddi wrth ei patrwm arferol.

Efallai os byddai Rooney yn dadwneud dadleuon yr adroddiadau yma i'w gwrthbrofi, byddai gan ei ddadl ychydig mwy credadwy. Rhethreg sydd wedi ei selio ar ddadleuon ail llaw sydd ganddo a dim arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 19 Ebr 2008 11:25 am

Dyma beth oedd gan y Sidney Morning Herald i dweud am Bob Carter (y dyn a ysgrifennodd erthygl mae Rooney yn selio'i ddadl arno)...

Sidney Morning Herald, March 15, 2007 a ddywedodd:Professor Carter, whose background is in marine geology, appears to have little, if any, standing in the Australian climate science community. He is on the research committee at the Institute of Public Affairs,a think tank that has received funding from oil and tobacco companies, and whose directors sit on the boards of companies in the fossil fuel sector.


Mae e hefyd gweth i Rooney darllen HWN amdano Bob Carter.


Paid cymryd gair yr hen Bob fel Efyngyl Rooney!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

Postiogan rooney » Mer 30 Ebr 2008 12:55 am

Griff-Waunfach a ddywedodd:
Paid cymryd gair yr hen Bob fel Efyngyl Rooney!


Pam fod pobl yn cymryd gair gwyddonwyr fel Efengyl? Ac mor gas tuag at y rheiny sydd yn gwrthwynebu barn y mwyafrif? Os felly, nid ellir ei gysidro'n wyddoniaeth bellach- y data ddylai gael y gair mwyaf a'r olaf.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron