Tudalen 2 o 4

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Mer 16 Ebr 2008 5:24 pm
gan osian
Hwnna yn haeddu lle yn yr edefyn dyfyniada yn bendant! :lol:

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Mer 16 Ebr 2008 9:15 pm
gan rooney
Mae'r data yn dangos fyny theoriau cracpot diweddaraf y gwyddonwyr gwleidyddol. Gwyliwch nhw'n parhau i wthio'r theori er fod y data ddim yn ei gefnogi. Gen "gwyddonwyr" fel hyn heddiw ddim llawer o hunan-barch na pharch at y ffeithiau.

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 8:23 am
gan Mr Gasyth
rooney a ddywedodd:Mae'r data yn dangos fyny theoriau cracpot diweddaraf y gwyddonwyr gwleidyddol. Gwyliwch nhw'n parhau i wthio'r theori er fod y data ddim yn ei gefnogi. Gen "gwyddonwyr" fel hyn heddiw ddim llawer o hunan-barch na pharch at y ffeithiau.


Ffyc, ti'n ffyni de, yn enwedig pan ti'n galw bobl eraill yn cracpots.

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 8:38 am
gan huwwaters
rooney a ddywedodd:Mae'r data yn dangos fyny theoriau cracpot diweddaraf y gwyddonwyr gwleidyddol. Gwyliwch nhw'n parhau i wthio'r theori er fod y data ddim yn ei gefnogi. Gen "gwyddonwyr" fel hyn heddiw ddim llawer o hunan-barch na pharch at y ffeithiau.


Pam fod yr erthygl ar wefan y Telegraff o dan "opinion". Ffaith cadarn yw gwyddoniaeth nid rhyw newidyn.

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 9:11 am
gan ceribethlem
Rooney, pam wyt ti'n darllen am wyddoniaeth? ti'n gwbod nad yw e'n wir, dyw e' ddim yn dy lyfyr bach sbeshal di.


Mwy i'r pwynt, os taset ti'n deall unrhyw wyddoniaeth o gwbwl, fe fyddet ti'n gwybod fod gwyddonwyr wedi dweud ers o leiaf ugain mlynedd y bydd cynhesu Byd eang yn gallu arwain at oeri'r byd. Fe dybiaf mai ti sydd yn methu a deall beth yw ystyr cynhesu byd eang.

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 11:16 pm
gan rooney
ceribethlem a ddywedodd:Rooney, pam wyt ti'n darllen am wyddoniaeth? ti'n gwbod nad yw e'n wir, dyw e' ddim yn dy lyfyr bach sbeshal di.


Mwy i'r pwynt, os taset ti'n deall unrhyw wyddoniaeth o gwbwl, fe fyddet ti'n gwybod fod gwyddonwyr wedi dweud ers o leiaf ugain mlynedd y bydd cynhesu Byd eang yn gallu arwain at oeri'r byd. Fe dybiaf mai ti sydd yn methu a deall beth yw ystyr cynhesu byd eang.


ceri, rwyf o blaid ac yn ymddiddordebu mewn gwleidyddiaeth go iawn. Arsylawadu. Ystadegau. Ffeithiau.. fel, y byd yn oeri 1998-2005, er fod Al Gore a'i ffridiau yn gaddo fel arall.

felly mae global warming yn golygu "oeri"? ok ceri
dyma esiampl arall o le mae'r "gwyddonwyr" ddim yn gadael i data rwystro'r dogma.
Hmm, crefyddol iawn ceri

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Iau 17 Ebr 2008 11:54 pm
gan rooney
huwwaters a ddywedodd:Pam fod yr erthygl ar wefan y Telegraff o dan "opinion". Ffaith cadarn yw gwyddoniaeth nid rhyw newidyn.


gwadu'r data felly huw? hmm? pam? ddim yn siwtio dy dogmas?

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ebr 2008 12:54 am
gan huwwaters
rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Pam fod yr erthygl ar wefan y Telegraff o dan "opinion". Ffaith cadarn yw gwyddoniaeth nid rhyw newidyn.


gwadu'r data felly huw? hmm? pam? ddim yn siwtio dy dogmas?


Rooney, dwi heb yr un dogma. Myfyriwr ydwyf yn y prifysgol sy'n byw oddi ar fenthyciadau, yn yr haf byddaf yn siwr o gael swydd i ennill dipyn o bres poced. Ma fy mywyd i'n syml. Dwi heb yr un diddordebau gwleidyddol na economaidd sy'n effeithio ar nifer helaeth o bobol. Dwi ddim yn berson enwog, nac yn dymuno bod. Cwbwl dwi'n neud ydi pethe sy'n fy mhlesio i, o fewn rheswm. Does dim dogma i'w gael yn hwne.

Be ma Ceri yn ei olygu yw fydd cynhesu byd eang yn arwain at rai lefydd yn mynd yn boethach, eraill yn wlypach ac eraill yn oerach. Ma Gorllewin Ewrop ar yr un latitude a Canada, ond tydyn ni ddim yn dioddef gaeafau mor garw a nhw. Rheswm dros hyn yw fod ne Gulf Stream o aer twym yn dod o dde America at Ewrop ac yn ei gynhesu.

Pam byswn i efo dogma efo'r paragraff uchod? Be ydw i efo i'w ennill drwy wneud honiadau fel sydd uchod o ystyried fy nghefndir?

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ebr 2008 8:09 am
gan Mr Gasyth
Delwedd

Rooney, rhoddwyd linc i'r graff uchod yn gynharach yn y drafodaeth, ond dwi'n gwbod nad wyt ti'n un am agor lincs pob eraill heb son am ei ddarllen felly on i'n meddwl baswn i'n bostio fo yma yn uniongyrchol i ti.

1998 ydi'r pig mawr jest cyn 2000 - roedd yn flyddyn anarferol o boeth hyd yn oed wrth safonau poethach nag arfer y degawdau diwetha.

Felly, mae'n iawn i ddeud fod bob blwyddyn erd 1998 wedi bod yn oerach na 1998. Tydi hyn fodd bynnag ddim yn gyfystyr a deud fod tuedd tuag at oeri ers 1998 achos fel y gweli di parhau i godi mae'r graff o 1999, a mae'r ddegawd o 1998 ymlaen wedi bod yn boethach nag yr un o'i blaen.

Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.

Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan? :rolio:

Re: Mae'r ddaear yn oeri!

PostioPostiwyd: Gwe 18 Ebr 2008 8:14 am
gan ceribethlem
rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Rooney, pam wyt ti'n darllen am wyddoniaeth? ti'n gwbod nad yw e'n wir, dyw e' ddim yn dy lyfyr bach sbeshal di.


Mwy i'r pwynt, os taset ti'n deall unrhyw wyddoniaeth o gwbwl, fe fyddet ti'n gwybod fod gwyddonwyr wedi dweud ers o leiaf ugain mlynedd y bydd cynhesu Byd eang yn gallu arwain at oeri'r byd. Fe dybiaf mai ti sydd yn methu a deall beth yw ystyr cynhesu byd eang.


ceri, rwyf o blaid ac yn ymddiddordebu mewn gwleidyddiaeth go iawn. Arsylawadu. Ystadegau. Ffeithiau.. fel, y byd yn oeri 1998-2005, er fod Al Gore a'i ffridiau yn gaddo fel arall.
Pam son am wleidyddiaeth?

rooney a ddywedodd:felly mae global warming yn golygu "oeri"? ok ceri
Fel wedes i rooney, ti ddim yn deall gwyddoniaeth rooney. Bydd cynhesu byd eang yn gallu ymdoddi'r pegynau ia (achos y gwres ti'n gweld). Bydd hwn yn golygu y bydd blociau mawr o ia (sydd yn oer iawn) yn llifo lawr mewn i'r mor, ac yn oeri'r mor. Bydd y gwyntoedd sydd yn chwythu ar draws y mor hwnnw hefyd yn oeri, gan oeri pa bynnag wlad y byddant yn taro.
Mae systemau tywydd yn rhai anodd iawn i ddarogan yn fanwl gywir, felly mae'n amhosib i ddweud yn union beth fydd yn digwydd.

rooney a ddywedodd:dyma esiampl arall o le mae'r "gwyddonwyr" ddim yn gadael i data rwystro'r dogma.
Hmm, crefyddol iawn ceri
Gwed ti'r Luddite.