gan Griff-Waunfach » Sad 19 Ebr 2008 10:57 am
Mae Rooney wedi defnyddio erthygl pitw i cefnogi ei ddadl yn fan yma... beth am iddo fynd i weld adroddiad diweddar yr IPCC (INTERGOVERNMENTAL PANEL ON CLIMATE CHANGE). Mae ganddyn nhw adroddiad hirfaeth wedi selio ar waith canoedd o wyddonwyr, ac mae pob un o'i ddarganfyddiadau yn pwyntio at yr un canlyniad. Mae dynolryw yn cael effaith ar tymheredd y Byd, ac yn fwy penodol yn effeithio arno morgymaint fel ein bod ni yn newid y hinsawdd oddi wrth ei patrwm arferol.
Efallai os byddai Rooney yn dadwneud dadleuon yr adroddiadau yma i'w gwrthbrofi, byddai gan ei ddadl ychydig mwy credadwy. Rhethreg sydd wedi ei selio ar ddadleuon ail llaw sydd ganddo a dim arall.