Re: Mae'r ddaear yn oeri!
Postiwyd: Gwe 18 Ebr 2008 8:15 am
Bach yn rhy wyddonol i rooney fe dybiaf Mr G.Mr Gasyth a ddywedodd:
Rooney, rhoddwyd linc i'r graff uchod yn gynharach yn y drafodaeth, ond dwi'n gwbod nad wyt ti'n un am agor lincs pob eraill heb son am ei ddarllen felly on i'n meddwl baswn i'n bostio fo yma yn uniongyrchol i ti.
1998 ydi'r pig mawr jest cyn 2000 - roedd yn flyddyn anarferol o boeth hyd yn oed wrth safonau poethach nag arfer y degawdau diwetha.
Felly, mae'n iawn i ddeud fod bob blwyddyn erd 1998 wedi bod yn oerach na 1998. Tydi hyn fodd bynnag ddim yn gyfystyr a deud fod tuedd tuag at oeri ers 1998 achos fel y gweli di parhau i godi mae'r graff o 1999, a mae'r ddegawd o 1998 ymlaen wedi bod yn boethach nag yr un o'i blaen.
Gwyrdroi ffeithiau felly ydi defnyddio 1998 fel sylfaen i gymhariaeth a wedyn honi fod y byd yn oeri.
Ydi hynne'n ddigon clir i ti wan?