Re: Mae'r ddaear yn oeri!
Postiwyd: Mer 30 Ebr 2008 11:20 am
rooney a ddywedodd:Griff-Waunfach a ddywedodd:
Paid cymryd gair yr hen Bob fel Efyngyl Rooney!
Pam fod pobl yn cymryd gair gwyddonwyr fel Efengyl? Ac mor gas tuag at y rheiny sydd yn gwrthwynebu barn y mwyafrif? Os felly, nid ellir ei gysidro'n wyddoniaeth bellach- y data ddylai gael y gair mwyaf a'r olaf.
Dwi ddim yn cymryd e fel efengyl, ond mae'n rhaid ystyried a oes agenda ddyfnach ganddyn nhw, dwi'n siwr bod Bob wedi gwenud ei ymchwil, a bod ganddo ddata, ond mae pob gwyddonwr yn gorfod dehongli'r data, ac yn y dehongliad y mae'r gwendid. Yn amlwg mae gan Prof. Bob "vested interest" mewn amau cynhesu'r byd. Ac mae e'n gwneud hyn trwy ei ddehongliad o'r ddata.