Llynedd, cyhoeddodd elusen 'People & Planet' eu Cynghrair Gwyrdd am y tro cyntaf, sef rhestr sy'n graddio Prifysgolion yn ôl eu cynhaliadwyedd. Da gweld bod Morgannwg, Casnewydd, ac Athrofa Abertawe wedi gwneud yn dda iawn yn 2007. Ar y llaw arall, wnaeth Caerdydd ac Aberystwyth yn ofnadwy o wael...
Bydd yr elusen yn cyhoeddi rhestr 2008 dros yr wythnosau nesa - tybed faint fydd wedi newid mewn blwyddyn...
Ma'r manylion llawn i gael ar wefan P&P, a co rhestr 2007, i chi gael brolio neu cochi dros safle eich alma maters...