Tudalen 1 o 1

14.6.08 - Beicio'n borcyn yng Nghaerdydd

PostioPostiwyd: Gwe 30 Mai 2008 10:17 am
gan Dwlwen
Delwedd

Un ar gyfer seiclwyr Caerdydd...

Bydd taith noeth beic y byd yn digwydd yn Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Mehefin 14eg (llwybr y daith i'w gyhoeddi.) Y nod yw protestio yn erbyn y diwylliant bresennol o ddibyniaeth ar olew a gwrthwynebu'r modd y mae seiclwyr yn cael eu dinoethi i allyriadau gan gerbydau bob dydd... bach o hwyl wrth herio'r drefn, innit. Ma rhagor o wybodaeth ar eu tudalen wiki.

A tithau'n meddwl bo ti'n neud safiad trwy dynnu helm, Gwanaglwyf :winc:


o.n. sdim rhaid tynnu dillad i gymryd rhan :D

Re: 14.6.08 - Beicio'n borcyn yng Nghaerdydd

PostioPostiwyd: Sul 01 Meh 2008 7:24 am
gan Rhys
Gwelais bosteri hwn ddoe, gyda'r strap line: Mor Noeth a sy'n Ddoeth. Gwych :D

Fyddai ddim yn diosg fy nillad, mae sedd fy meic digon anghyfforddus fel y mae.

Re: 14.6.08 - Beicio'n borcyn yng Nghaerdydd

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2008 11:58 am
gan Norman
Pwy sydd am fentro ta ?! Cychwynwyn cyn tua pedwar yn Parc Cathays.