Tudalen 1 o 1

Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 1:18 pm
gan ceribethlem
Mae lot o son wedi bod am ynni niwclear fel modd carbon isel o sicrhau cyflenwad o drydan i'r ynysoedd yma. Mae'r ddadl yn gallu bod yn un ffyrnig ar y ddwy ochr, yn arbennig gan bod nifer ohonom ni yn gallu cofio trychineb pwerdy niwcelar Chernobyl.

Serch hynny mae dull newydd o greu trydan o ynni niwclear wedi ei ddyfeisio (gweler http://www.pbmr.com) Mae'r dull yma wedi cael ei dedefnyddio yn Ne'r Affrig eisoes. Yn hytrach na defnyddio rodiau i reoli'r adwaith, mae'r tannwydd (niwclear) yn cael ei gyflwyno ar ffurf pebbles wedi gorchuddio mewn graffit. Mae hyn yn rheolu'r adwaith yn fwy effeithiol na rodiau, ac mae'n golygu bod nwyon anadweithiol (inert gases) yn gallu cael eu defnyddio oeri'r adweithyddwr. Mae hyn yn golygu gwellir cael adweithyddwyr rhatach, llai a mwy diogel am eu bod gymaint haws i'w hoeri.

Os yw'r cyfan yn wir, yna mae'n werth i lywodraethau Prydain a'r Cynulliad ymchwilio mewn i werth cael adweithyddwyr o'r fath yma yng Nghymru. Mae hyn yn wir yn arbennig yn sgil dargynfyddiadau diweddar, efallai bod tyrbeini gwynt yn gallu achosi epilepsi ym mhobl!

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 4:00 pm
gan huwwaters
Be ti'n neud efo'r wast ar ôl?

£2,000,000,000 i adeiladu pwerdy, £60,000,000,000 a blynyddoedd maith o decomissioning. Hmm.

Cold fusion yw'r ffordd ymlaen, nid chware o gwmpas efo nuclear fission. Ma'r fission yn digwydd am reswm, gan fod y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn ansefydlog, sydd yn rhoi egni + cynnyrch ansefydlog.

Dwi'n meddwl byse fo'n syniad gwell newid y teitl i: Ynni niwclear mwy diogel. Dim ond pobol ydym ni, nid ydym yn inert fel rhai pethe felly fydd ymbelydredd - sy'n hanfodol ar gyfer echdynnu egni o'r deunydd - o hyd yn beryg i ni.

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 4:53 pm
gan 7ennyn
huwwaters a ddywedodd:Be ti'n neud efo'r wast ar ôl?

£2,000,000,000 i adeiladu pwerdy, £60,000,000,000 a blynyddoedd maith o decomissioning. Hmm.

Ti'n son am hen atomfeydd o'r oes o'r blaen. Roedden nhw'n defnyddio yr un math o ddur a choncrid i adeiladu y rheiny ag yr oedden nhw yn eu defnyddio i adeiladu mylti-stori car-parcs! Dad-gomisiynu oedd y peth olaf ar feddyliau'r peiriannwyr wrth iddyn nhw gynllunio atomfeydd yn y 50au a'r 60au, a 'da ni'n talu am hynny heddiw.

Mae atomfeydd modern yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau newydd sydd yn llawer llai adweithiol, ac mae dad-gomisiynu yn cael blaenoriaeth llwyr yn y broses o'u cynllunio. Bydd dad-gomisiynu y genhedlaeth nesaf o atomfeydd yn saffach, yn gynt ac yn lot rhatach (gobeithio :? ).

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Llun 07 Gor 2008 9:13 pm
gan huwwaters
7ennyn a ddywedodd:

Ie, ond dweda fod y Uranium ore yn dwad o Iran neu Awstralia, fydd y cynnyrch ar y diwedd ddim yn mynd yn ôl i'r gwledydd yma. Os mae'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru, yma fydd o'n aros am byth.

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Maw 08 Gor 2008 7:20 am
gan ceribethlem
Nid re-hash o'r hen ddadl am ynni niwclear oedd pwynt yr edefyn yma, ond yn hytrach trafod yr modd newydd yma o ddefnydddio ynni niwclear.

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Maw 08 Gor 2008 5:37 pm
gan 7ennyn
Sori Ceri!

Dwi'n meddwl ei fod o yn beth da... naci drwg... naci da.

Re: Ynni niwclear diogel?

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 10:48 am
gan huwwaters
ceribethlem a ddywedodd:Nid re-hash o'r hen ddadl am ynni niwclear oedd pwynt yr edefyn yma, ond yn hytrach trafod yr modd newydd yma o ddefnydddio ynni niwclear.

Dim ots be di'r modd o gael egni, mae dal yn defnyddio'r un deunydd ymbelydrol, Uranium-235, ac o ganlyniad fydd yr un gwastraff dal o gwmpas.

Wedi edrych ar y wefan, y peth cyntaf fydd yn saffach yw'r gwres llai mae'n gweithio gyda felly fydd hi'n bosib oeri'r sdwff yn gyflymach os bydd raid. Fydd yn ddiddorol gweld hwn yn gweithio, ond fel dwi di deud ar ddiwedd oes yr adweithydd fydd dal gwastraff ymbelydrol.