Tudalen 1 o 1

Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 8:42 pm
gan aberdarren
Oni ddylen ni dechrau gwerthfawrogi yr hen adeiladau yng nghalon ein cymunedau ar hyd ac ar lled Cymru ?

Dyma fideo o Gapel Tabernacl Aberystwyth. Tynnwyd i lawr heddiw ...



A lluniau fan yma cyn i'r hen Gapel llosgi.

Mae yna Capel Tabernacl ym mhob cwr o Gymru.

Buddsoddwyd cymaint o egni creadigol ac ysbryd yn yr hen adeiladau yma.

Gyda ddychymyg, gallwn ychwanegu at werth y buddsoddiad yma yng nghalon ein cymunedau.

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 10:54 pm
gan huwwaters
aberdarren a ddywedodd:Oni ddylen ni dechrau gwerthfawrogi yr hen adeiladau yng nghalon ein cymunedau ar hyd ac ar lled Cymru ?

Dyma fideo o Gapel Tabernacl Aberystwyth. Tynnwyd i lawr heddiw ...



A lluniau fan yma cyn i'r hen Gapel llosgi.

Mae yna Capel Tabernacl ym mhob cwr o Gymru.

Buddsoddwyd cymaint o egni creadigol ac ysbryd yn yr hen adeiladau yma.

Gyda ddychymyg, gallwn ychwanegu at werth y buddsoddiad yma yng nghalon ein cymunedau.


Yn hollol! Un o'r broblemau yw fod TAW ar adnewyddu hen adeiladau, tra fod ne ddim TAW ar adeiladu rhywbeth o'r newydd. Yn amal, mae hi'n rhatach tynnu adeilad i lawr ac adeiladu un newydd, na adnewyddu hen un.

Ma hwn yn edrych fel isurance job i mi, fel cymaint o rai erill sydd di digwydd mynd 'ar dân' tra fod rhaid i'r datblygwyr dderbyn trawsnewid yr adeilad fewn i fflatiau, pan fo amcanion gwreiddiol nhw yw stâd dai.

Enghreiffitiau yw yr un yma, Hafodunos, Tan y Bryn, i enwi ond rhai.

Be tydi'r BBC ddim yn deud yw fod cais cynllunio i adeiladu holiday chalets wedi ei roi mlaen efo Hafodunos a chafodd ei wrthod. Cafodd cais i ddatblygu ysbyty arbennig ar gyfer toseddwyr â phroblemau meddyliol (Broadmoore etc.) ei wrthod efo Tan y Bryn (datblygwyr wedi newid yr enw i Gainborough House) ac yn y ddau achos yr oedd rhaid i'r datblygwyr setlo am rybweth arall. Yn Abergele ei hun aeth hen dai 'ar dân' wrth ymyl safle bracdy a oedd ar fin cai. Bellach mae complex Assisted Living ir henoed ar y safle. Neis iawn.

Cwrt Bracdy - ma Abergele angen fwy o fywyd na hwn... :rolio:

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 11 Gor 2008 11:26 pm
gan Macsen
huwwaters a ddywedodd:Ma hwn yn edrych fel isurance job i mi

Oni fyddai'n syniad gwnud rywfaint o waith ymchwil i achos y llosgi cyn dweud rywbeth mor hurt? Ti'n cyhuddo perchennog yr adeilad o drosedd difrifol fan hyn. :ofn:

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Gor 2008 10:18 am
gan krustysnaks
Ie, yn enwedig gan bod y datblygwyr wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer yr hen adeilad - does bosib ei bod hi'n fwy o ffaff i godi adeilad o'r newydd ar safle sy'n gyfyngedig ar bob ochr na addasu'r hen gapel?

Roedden ni'n arfer cael gwasanaethau Nadolig Ysgol Penweddig yn y Tabernacl - yr unig gapel ddigon mawr i ddal holl ddisgyblion yr ysgol a ffrindiau o'r tu allan - a cefais i ddwsinau o arholiadau cerddoriaeth yn y festri. Arwyddwyd y Gyffes Ffydd yno, gyda llaw. Adeilad anferth (dros fil o bobl yn gallu eistedd yn y galeri yn unig!) ond hyfryd. Landmark Aberystwyth jyst wedi diflannu!

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Gor 2008 1:01 pm
gan Jon Bon Jela
Dwi ddim yn clodfori dinistrio adeiladau hanesyddol, ond yn bersonol dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pam na fydd capeli/eglwysi yn llygru ein pentrefi/trefi/dinasoedd.

A synnen i daten petai cwmni adeiladu yn rhoi cais ar gyfer adeiladu bloc o fflatiau antiseptig yn lle'r capel.

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Gor 2008 2:36 pm
gan Macsen
Jon Bon Jela a ddywedodd:Dwi ddim yn clodfori dinistrio adeiladau hanesyddol, ond yn bersonol dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pam na fydd capeli/eglwysi yn llygru ein pentrefi/trefi/dinasoedd.

A dwi'n siwr bod na lot o Gristnogion fyddai'n hoffi llosgi clybiau hoywon a ballu'n ulw, ond dydi o ddim yn iawn chwaith nag ydi. :ofn:

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 12:59 am
gan huwwaters
krustysnaks a ddywedodd:Ie, yn enwedig gan bod y datblygwyr wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer yr hen adeilad - does bosib ei bod hi'n fwy o ffaff i godi adeilad o'r newydd ar safle sy'n gyfyngedig ar bob ochr na addasu'r hen gapel?


Ma rhoi change of use yn second best i ddatblygwyr. Pob tro bydden nhw isio codi datblygiad newydd ond yr adran cynllunion yn deud na Grade I/II Listed Building, mae angen cadw'r facade etc. a rhaid i chi addasu'r adeilad, ddim gneud be bynnag chi isio.

Ma'n swnio fel fydd hi'n fwy o ffaff i godi adeilad newydd, ond fydd hi'n rhatach na adnewyddu hen adeilad gyda TAW gan roi mwy o elw.

Yn yr enghreifftiau dwi di nodi o'r blaen, ym mhob un mae caniatad cynllunio, ond ddim caniatad am y bwriad gwreiddiol, a tydi'r gwir-fwriad byth yn gael ei ddatgelu. Mae pob un yn awgrymiad/llywiad gan y cyngor, ar apêl.

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 4:02 pm
gan Jon Bon Jela
Macsen a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Dwi ddim yn clodfori dinistrio adeiladau hanesyddol, ond yn bersonol dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pam na fydd capeli/eglwysi yn llygru ein pentrefi/trefi/dinasoedd.

A dwi'n siwr bod na lot o Gristnogion fyddai'n hoffi llosgi clybiau hoywon a ballu'n ulw, ond dydi o ddim yn iawn chwaith nag ydi. :ofn:



Ermm... beth sydd gyda rhywioldeb i'w wneud 'da hyn? Oes rhywbeth gyda ti i ddweud wrthyn ni, Macsen?

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 6:05 pm
gan Macsen
Jon Bon Jela a ddywedodd:Ermm... beth sydd gyda rhywioldeb i'w wneud 'da hyn? Oes rhywbeth gyda ti i ddweud wrthyn ni, Macsen?

Ha ha, you wish. :P

Be ydw i'n dweud yw y dylai pobol syn cael stranc am ddiffyg goddefgarwch fod yn barod i ddangos goddefgarwch tuag at grwpiau llefrifol eraill. ;)

Re: Gwastraffu Adeiladau Hanesyddol Cymru

PostioPostiwyd: Sul 13 Gor 2008 6:22 pm
gan aberdarren
huwwaters a ddywedodd:
aberdarren a ddywedodd:Gyda ddychymyg, gallwn ychwanegu at werth y buddsoddiad yma yng nghalon ein cymunedau.


Yn hollol! Un o'r broblemau yw fod TAW ar adnewyddu hen adeiladau, tra fod ne ddim TAW ar adeiladu rhywbeth o'r newydd. Yn amal, mae hi'n rhatach tynnu adeilad i lawr ac adeiladu un newydd, na adnewyddu hen un.


Diddorol iawn. Cytunaf bod y fframwaith trethi a chynllunio wrth wraidd y broblem.