Tudalen 1 o 1

Cimwch afon Americanaidd

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 10:39 am
gan Dili Minllyn
Darn diddorol yn y Western Mail ddoe am ymlediad y cimwch afon Americaniadd i Afon Llwyd yn Nhorfaen. Fel mae’n digwydd, mi welais i un o’r creaduriaid ffyrnig hyn yn ddiweddar yn Afon Wharfe ar ystâd Abaty Bolton, sir Efrog – roedd cwpl o blant wedi’i ddal mewn rhwyd bach, ac yn mynd rownd y lle yn ei ddangos i bawb mewn bocs brechdanau.

Fel yn achos llawer o anifeiliaid a phlanhigion estron, maen nhw’n beryglus tu hwnt i gimychiaid brodorol, ac mae eisoes cyfreithiau’n gwahardd eu cadw a’u rhyddhau.

Re: Cimwch afon Americanaidd

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 1:08 pm
gan Hogyn o Rachub
Mi glywais am hyn ychydig fisoedd nôl, mewn rhyw afon yn Lloegr, ac yn ôl y bobl sy'n dallt y pethau 'ma y pethau gorau y gallwn ni ei wneud ydi eu bwyta nhw!