Mae llawer o monitors CRT cyfrifiadurol hen a sbâr yma yn Sain, ac felly da ni am eu hailgylchu. Wrth drio mynd a nhw i'r lle da ni'n ailgylchu pob dim arall, mi wnaethon nhw wrthod gan ein bod ni'n fusnes. Wedyn dyma ffonio'r cyngor a doedd dim ateb yn fanno chwaith. Oes na unrhyw un yn gwbod be mae busnesau arall yn wneud hefo'i monitors nhw?
(Os oes unrhyw un eisiau un, mae croeso i chi ddwad yma i nôl un, mae'n nhw'n gweithio'n iawn. )
Siwan
siwan@sainwales.com