Tudalen 1 o 1

Ailgylchu monitors cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2008 3:41 pm
gan Siwan123
Mae llawer o monitors CRT cyfrifiadurol hen a sbâr yma yn Sain, ac felly da ni am eu hailgylchu. Wrth drio mynd a nhw i'r lle da ni'n ailgylchu pob dim arall, mi wnaethon nhw wrthod gan ein bod ni'n fusnes. Wedyn dyma ffonio'r cyngor a doedd dim ateb yn fanno chwaith. Oes na unrhyw un yn gwbod be mae busnesau arall yn wneud hefo'i monitors nhw?

(Os oes unrhyw un eisiau un, mae croeso i chi ddwad yma i nôl un, mae'n nhw'n gweithio'n iawn. )

Siwan
siwan@sainwales.com

Re: Ailgylchu monitors cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 25 Medi 2008 4:50 pm
gan 7ennyn
Mi oedd 'na gwmni elusenol ym Mhorthmadog - "Enterprise Recycling" - oedd yn cymeryd hen offer cyfrifiadurol am ddim. Ond dwi ddim yn siwr os ydyn nhw dal i fodoli. Tria eu ffonio nhw (os ydyn nhw dal yno!) - 01766 512816.

Neu tria berswadio aelodau o'r staff i fynd ag un bob un i'r safle ailgylchu yng Nghibyn, a smalio mai gwastraff domestig ydyn nhw! :winc:

Re: Ailgylchu monitors cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 5:06 pm
gan Dewin y gorllewin
Treia rhain - mae nhw o Aberystwyth

http://www.craftrecycling.org.uk/