Tyfu planhigion

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tyfu planhigion

Postiogan Kez » Sad 04 Ebr 2009 6:00 pm

ceribethlem a ddywedodd: Bonkers ond yw e'. O'n i'n meddwl falle recordio fe ar DVD ar gyfer gwersi rhyw yn yr ysgol, ond allai ddim dangos stwff fel 'na i blant 11/12 oed!


Ond odd e wir! Welast ti'r cyfweliad gida'r porn star o Ogledd Cymru; dim ond dwy raglen sydd wedi bod mor bellad, felly mae fe naill ai'n siarad yn yr un biti vaginas neu'r llall biti penisis - wi'm yn cofio pa un.

Pwynt ei gyfraniad e odd i ddangos nag odd porn yn jobyn cystlad ag y bysa rhywun yn ei feddwl ac yntau'n dychra son am shelffo rhyw 'granny' yn ei eiriau fe yn y twll arall. Weta i ddim rhagor biti ei brofiad fe gida'r 'granny' ne gaf i gerdyn coch.

Dyw e ddim yn addas ar gyfer plant ne neb!
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Tyfu planhigion

Postiogan Duw » Sad 04 Ebr 2009 6:49 pm

Wel mae rhai o ni â 'cinc' am grannies, pryd odd e 'mlan eto?

Eniwei, nol i'r edefyn - wyt ti wedi edrych ar http://www.rhs.org.uk/ hwn?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Tyfu planhigion

Postiogan ceribethlem » Sul 05 Ebr 2009 8:51 am

Duw a ddywedodd:Wel mae rhai o ni â 'cinc' am grannies, pryd odd e 'mlan eto?

Eniwei, nol i'r edefyn - wyt ti wedi edrych ar http://www.rhs.org.uk/ hwn?

Naddo, fi wedi gweld hwn ond o'n tybio falle bod profiad personol gyda rhywun.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tyfu planhigion

Postiogan Kez » Llun 06 Ebr 2009 2:11 pm

Duw a ddywedodd:Wel mae rhai o ni â 'cinc' am grannies, pryd odd e 'mlan eto?

Eniwei, nol i'r edefyn - wyt ti wedi edrych ar http://www.rhs.org.uk/ hwn?


Eniwe - nol off yr edefyn, ac fi wn i taw edefyn ar gyfar gwyddfid odd yr edefyn 'ma i fod, ond rhwnt Ceri a'i wyddfid a Hedd a'i hwyaid (ma'n rhaid bod y dwli' ma'n rhedeg yn y teulu!) - does fawr neb yn siarad sens ar faes-e erbyn hyn, felly wi'n mynd i dorri ar ei draws a siarad a Duw.

Duw 'achan, wn i'm pryd ma''r rhaglen 'mlan ond ti gei di ei gweld hi ar channel 4 on demand - http://www.channel4.com/4od/index.html - ma ddi yno rwla, wi'n addo iti. Ma'r boi odd yn siarad am 'grannies' yn yr ail raglen - yr un biti penises (fi netho i bach o ymchwil i fod yn siwr). Wi'n meddwl bo fe'n dod o Glwyd odd wrth yr acen, ond walla bo rhywun ar faes-e yn ei napod e ac yn gallu fy nghywiro i.

Cym ofal cofia; odd yfi - Kez - a'r wraig Kerys a'r ddou blentyn Keanu a Kylie yn hollol hollol shocked shocked wrth y cynnwys , ond yn ni'n dou yn rhieni sy'n cretu bod rhaid siarad a'r plant biti pethach fel hyn. Er hynny, odd Keanu yn cal hunllefa ar ol y darn biti spegma; ma 'dag e ffrind yn yr ysgol o'r enw Sbeggie ac ma'n gwrthod mynd yn agos ato fe nawr.

Ma'n anodd gwpod beth i neud -wi'n cytuno a Ceri nag yw hi'n addas ar gyfar plant 11/12 oed - ond falla bysa hi'n wers lot mwy difyr nag un biti gwyddfid - ond pawb at y peth y bo, sbo :|
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Tyfu planhigion

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 06 Ebr 2009 2:23 pm

welish i'r un pidlans, a ma' raid fi gyfadda o'dd o'm yn wylio hawdd - tydyn nhw'm y petha hardda fyw, yn anffodus, nac 'dyn?! :?
ta waeth, pwynt y rhaglen oedd bod plant / pobol ifanc yn gwatsiad y porn mwfis 'ma ac felly'n cael y syniad anghywir am be 'di rhyw. lot iachach oedd dangos y corff yn 'i holl ogoniant a thrafod y peth yn agored. ...wedi deud hynny, ella 'sa 'n decach gwahanu genod a hogia, 'sa 'i 'di bod yn rhemp yn ysgol ni 'sa pawb efo'i gilydd fela.

ynglyn a gwyddfid ( rhag cael row am fynd oddi ar y pwynt) ma 'na ogla bendigedig arnyn nhw ceri, fydd dy ardd di'n hyfryd yn 'rha!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Tyfu planhigion

Postiogan sian » Llun 06 Ebr 2009 2:32 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ma 'na ogla bendigedig arnyn nhw ceri, fydd dy ardd di'n hyfryd yn 'rha!


Bydd. Oedden ni'n arfer tynnu'r blodau a sugno'r mêl ohonyn nhw - (falle ddim y peth calla i'w ddweud o ystyried trywydd yr edefyn 'ma)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Tyfu planhigion

Postiogan Kez » Llun 06 Ebr 2009 3:26 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:welish i'r un pidlans, a ma' raid fi gyfadda o'dd o'm yn wylio hawdd - tydyn nhw'm y petha hardda fyw, yn anffodus, nac 'dyn?! :?


Talk for yourself - mine's OK :) 8)

Nol at yr edefyn gwreiddiol er mwyn'n codi'r disgwrs o'r entrychion, ac felly dyma ichwi gyfeillion ran o gerdd gan Hedd Wyn sy'n son am y blodyn:

Ac er gwybod fynd ymaith ddyddiau fy chwerthin
Ban welais lwyd yr oedd y crinddail ar ddôl,
A cholli fy ngerlant o wyddfid fy nrycin,
Mi a wn nad gwynfa ddidostur fy hefin
A charlam y dymestl a'i dug hi yn ôl


(Paid a dishgwl eglurhad o'r gerdd gen i - i'm way out of my depth :? :wps:)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai