Tudalen 1 o 3

Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 4:15 pm
gan Dili Minllyn
Dwi ddim yn gwybod beth yw’r lle gorau ar gyfer cwestiynau gwyddonol fel hwn, ond mae’r mab 6 oed wedi gofyn i mi sawl atom sydd mewn bricsen. :? (Dwi’n meddwl yma am fricsen glai arferol ar gyfer codi tŷ). Baswn i’n gwerthfawrogi unrhyw gyngor gan bobl o anian wyddonol.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 4:32 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi ddim yn gwybod beth yw’r lle gorau ar gyfer cwestiynau gwyddonol fel hwn, ond mae’r mab 6 oed wedi gofyn i mi sawl atom sydd mewn bricsen. :? (Dwi’n meddwl yma am fricsen glai arferol ar gyfer codi tŷ). Baswn i’n gwerthfawrogi unrhyw gyngor gan bobl o anian wyddonol.

o mai god. dwi newydd ga'l syniad o'r hyn sy o 'mlaen i... wa! :ofn:

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 4:53 pm
gan Duw
Mae cael yr ateb i hyn yn weddol cymhleth. Yn gyntaf mae angen gwybod pa fath elfennau sydd yn bresennol a pha ganran o bob un sydd ynddo. Yna, mae angen gwybod màs y fricsen. O gwybod y rhain, dylwn fod yn gallu cyfrifo. Daf nol ymhen 10 munud, ond jest i roi syniad i ti, mae 1g o hydrogen yn cynnwys dros 600,000,000,000,000,000,000,000 atom (6.022 x 10^23).

Mae gan fricsen normal fàs o dua 2.7 Kg
Mae bricsen wedi'i wneud allan o glai (tua 35% = 945g), tywod (tua 60% = 1620g) a haearn ocsid (tua 5% = 135g). Mae llwyth o bethe eraill hefyd, ond canran llawer yn llai na 1%.

Prif sylwedd clai yw alwminiwm ffylosilicad (Al,Si)3O4 => 1.5 x Al, 1.5 x Si, 4 X O; tywod yw silicon deuocsid (SiO2) a haearn(III) ocsid yw Fe2O3 (eto - 'generalisations').

Y CYFRIFO
Masau atomig cymharol = Al: 27, Si: 28, O: 16, Fe: 56
Mae pob 'mol' o atomau yn cynnwys y rhif hurt yna uchod (6 x 10^23).

Haearn ocsid: haearn = (112/160) * (165/56) = 1.7 mol; ocsigen = (48/160) * (165/16) = 3.1 mol.
Tywod: silicon = (28/60) * (1620/28) = 27 mol; ocsigen = (32/60) * (1620/16) = 54 mol.
Clai: alwminiwm = (40.5/146.5) * (945/27) = 9.7 mol; silicon: (42/146.5) * (945/28) = 9.7 mol; ocsigen = (64/146.5) * (945/16) = 25.8 mol.

Felly yn gyfan gwbl mae gennym 131 mol o atomau = 78,600,000,000,000,000,000,000,000 (7.86 X 10 ^25).

Cofia, dwi wedi gwneud hyn ar ol llond bola o Stella - siwr neiff Ceri weld cwpwl o gamgymeriade'n rhywle.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 7:36 pm
gan Macsen
Sawl atom sy mewn llond bola o stella te?

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 7:41 pm
gan Josgin
Cyfra nhw pryd mae nhw'n dod allan!

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 8:18 pm
gan Duw
Stella : Os ydym yn derbyn bydd yr ateb yn agos i ddwr pur:

6 can o Stella = 3000 cm3. Dwysedd cymharol dwr yw 1 (sef 1g/1cm3) = 3000g

Mas moleciwlol cymharol dwr = 18 (1 mol = 18g) felly mae 3000/18 = 166.7 mol of foleciwlau dwr.
Achos bod moleciwl o ddwr = H2O, mae 3 atom ym mhob moleciwl a felly mae 500 mol o atomau.

Dwi wedi yfed 300,000,000,000,000,000,000,000,000 o atomau (mwy na bricsen!). Wel mae'n teimlo fel blydi bricsen nawr - er wellten i pasio cwrw na phasio bricsen :winc: .

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 8:57 am
gan Dili Minllyn
Diolch, Duw, rwyt ti'n athrylith. Mi ddwedaf i wrth y mab - mae fe'n dwli ar symiau cymhleth. (Debyg bod gyda fi geek ar y gweill). :winc:

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 10:37 am
gan Duw
Mae Duw yn hollwybodol! Na, shycs Dili - dwi'n gallu gwneud hwn, ond gofyn i mi wneud rhywbeth pwysig - dim gobaith. Gobeithio neiff y crwtyn ddiddori mewn gwyddoniaeth a byd rhifau.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 11:04 am
gan Hazel
Cytunaf efo Dili, Duw. Rwyt ti'n athrylith! Roeddwn i'n â phen agored wrth ei ddarllen e. Wel, dim darllen yn wir ond cael y syniad. Pob lwc i'ch mab, Dili.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 12:07 pm
gan Dili Minllyn
Duw a ddywedodd:Gobeithio neiff y crwtyn ddiddori mewn gwyddoniaeth a byd rhifau.

Mae'n hynny'n weddol sicr o ddigwydd. Trydan (sef y 240 folt sy'n dod mas o'r socedi yn y wal) yw ei brif ddiddordeb ar hyn o bryd :ofn: - o ble mae'n dod, sut mae'n teithio, sut mae'n gweithio ac ati; er ei fod e hefyd am fod yn ballerina. Ewcs - peth braf yw gorwelion di-ben-draw meddwl plentyn. 8) Ta' waeth, byddaf i'n siwr o drafod gyda fe heno sawl atom sydd mewn bricsen. :winc: