gan Duw » Sul 05 Ebr 2009 4:53 pm
Mae cael yr ateb i hyn yn weddol cymhleth. Yn gyntaf mae angen gwybod pa fath elfennau sydd yn bresennol a pha ganran o bob un sydd ynddo. Yna, mae angen gwybod màs y fricsen. O gwybod y rhain, dylwn fod yn gallu cyfrifo. Daf nol ymhen 10 munud, ond jest i roi syniad i ti, mae 1g o hydrogen yn cynnwys dros 600,000,000,000,000,000,000,000 atom (6.022 x 10^23).
Mae gan fricsen normal fàs o dua 2.7 Kg
Mae bricsen wedi'i wneud allan o glai (tua 35% = 945g), tywod (tua 60% = 1620g) a haearn ocsid (tua 5% = 135g). Mae llwyth o bethe eraill hefyd, ond canran llawer yn llai na 1%.
Prif sylwedd clai yw alwminiwm ffylosilicad (Al,Si)3O4 => 1.5 x Al, 1.5 x Si, 4 X O; tywod yw silicon deuocsid (SiO2) a haearn(III) ocsid yw Fe2O3 (eto - 'generalisations').
Y CYFRIFO
Masau atomig cymharol = Al: 27, Si: 28, O: 16, Fe: 56
Mae pob 'mol' o atomau yn cynnwys y rhif hurt yna uchod (6 x 10^23).
Haearn ocsid: haearn = (112/160) * (165/56) = 1.7 mol; ocsigen = (48/160) * (165/16) = 3.1 mol.
Tywod: silicon = (28/60) * (1620/28) = 27 mol; ocsigen = (32/60) * (1620/16) = 54 mol.
Clai: alwminiwm = (40.5/146.5) * (945/27) = 9.7 mol; silicon: (42/146.5) * (945/28) = 9.7 mol; ocsigen = (64/146.5) * (945/16) = 25.8 mol.
Felly yn gyfan gwbl mae gennym 131 mol o atomau = 78,600,000,000,000,000,000,000,000 (7.86 X 10 ^25).
Cofia, dwi wedi gwneud hyn ar ol llond bola o Stella - siwr neiff Ceri weld cwpwl o gamgymeriade'n rhywle.