Tudalen 2 o 3

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 3:51 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Mae cael yr ateb i hyn yn weddol cymhleth. Yn gyntaf mae angen gwybod pa fath elfennau sydd yn bresennol a pha ganran o bob un sydd ynddo. Yna, mae angen gwybod màs y fricsen. O gwybod y rhain, dylwn fod yn gallu cyfrifo. Daf nol ymhen 10 munud, ond jest i roi syniad i ti, mae 1g o hydrogen yn cynnwys dros 600,000,000,000,000,000,000,000 atom (6.022 x 10^23).

Mae gan fricsen normal fàs o dua 2.7 Kg
Mae bricsen wedi'i wneud allan o glai (tua 35% = 945g), tywod (tua 60% = 1620g) a haearn ocsid (tua 5% = 135g). Mae llwyth o bethe eraill hefyd, ond canran llawer yn llai na 1%.

Prif sylwedd clai yw alwminiwm ffylosilicad (Al,Si)3O4 => 1.5 x Al, 1.5 x Si, 4 X O; tywod yw silicon deuocsid (SiO2) a haearn(III) ocsid yw Fe2O3 (eto - 'generalisations').

Y CYFRIFO
Masau atomig cymharol = Al: 27, Si: 28, O: 16, Fe: 56
Mae pob 'mol' o atomau yn cynnwys y rhif hurt yna uchod (6 x 10^23).

Haearn ocsid: haearn = (112/160) * (165/56) = 1.7 mol; ocsigen = (48/160) * (165/16) = 3.1 mol.
Tywod: silicon = (28/60) * (1620/28) = 27 mol; ocsigen = (32/60) * (1620/16) = 54 mol.
Clai: alwminiwm = (40.5/146.5) * (945/27) = 9.7 mol; silicon: (42/146.5) * (945/28) = 9.7 mol; ocsigen = (64/146.5) * (945/16) = 25.8 mol.


Felly yn gyfan gwbl mae gennym 131 mol o atomau = 78,600,000,000,000,000,000,000,000 (7.86 X 10 ^25).

Cofia, dwi wedi gwneud hyn ar ol llond bola o Stella - siwr neiff Ceri weld cwpwl o gamgymeriade'n rhywle.

Beth yn union wyt ti'n cyfrifo yn y rhan mewn bold? Fi ddim yn shwr pam dy fod ti'n lluosi pethau :? (hangover gyda fi cofia, falle mai 'na beth sydd ar fai)

O dderbyn y sylweddau blaenorol, wedyn Mr (Al,Si)3O4 = 146.5, Mr SiO2 = 60, Mr Fe2O3 = 160.

Wrth ddefnyddio'r hafaliad molau = mas/Mr, yna

molau (Al,Si)3O4 = 945/146.5 = 6.5 mol
molau SiO2 = 1620/60 = 27 mol
molau Fe2O3 = 135/160 = 0.84 mol

Cyfanswm = 34.34 mol x 6 x 10^23 = 2.060,400,000,000,000,000,000,000 (2.0604 x 10 ^24)

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 3:53 pm
gan ceribethlem
:wps:

Anwybydda'r uchod, fi newydd sylwi dy fod ti'n cyfrifo'r nifer o folau o atomau, nid molecylau.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 4:01 pm
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:molau (Al,Si)3O4 = 945/146.5 = 6.5 mol
molau SiO2 = 1620/60 = 27 mol
molau Fe2O3 = 135/160 = 0.84 mol

I barhau'r a'r cawlach ddechreuais i!

O ddefnyddio hwn, wedyn nifer o folau o atomau yn:

(Al,Si)3O4 = 6.5 x 7 = 45.5
SiO2 = 27 x 3 = 81
Fe2O3 = 0.84 x 5 = 4.2

Cyfanswm = 130.7 mol o atomau

130.7 x 6x10^23 = 784,200,000,000,000,000,000,000,000 (neu 7.842x10^25) Sef beth wedodd Duw jyst a bod.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 4:27 pm
gan Kez
Pan own i yn yr ysgol, bysa'r teip 'na o gwestiwn yn cal y teip hyn o ateb:

http://www.dailycognition.com/content/i ... 3j2ue1.gif

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 4:34 pm
gan Hazel
Dili Minllyn a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:
Gobeithio neiff y crwtyn ddiddori mewn gwyddoniaeth a byd rhifau.

Mae'n hynny'n weddol sicr o ddigwydd. Trydan (sef y 240 folt sy'n dod mas o'r socedi yn y wal) yw ei brif ddiddordeb ar hyn o bryd :ofn: - o ble mae'n dod, sut mae'n teithio, sut mae'n gweithio ac ati;


Dili, Rwy'n dal i weld y tyrnsgriwr yn y socedi. OUCH. :ing: Sori.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 4:40 pm
gan Duw
130.7 x 6x10^23 = 784,200,000,000,000,000,000,000,000 (neu 7.842x10^25) Sef beth wedodd Duw jyst a bod.


Jest wedi rowndio. Nes i'r holl luosi er mwyn dangos y came. Yn wir yr unig peth odd angen gwneud oedd rhannu gan mas moleciwlol a llusoi gan nifer yr atomau yn y moleciwl. Dyna be nest ti yn y diwedd dwi'n meddwl. Ar ol cwrw neu yn llawn hangover, nid yw hwn yn fath o broblem i daclo gyda sicrwydd 100%! :rolio:

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 4:59 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:
130.7 x 6x10^23 = 784,200,000,000,000,000,000,000,000 (neu 7.842x10^25) Sef beth wedodd Duw jyst a bod.


Jest wedi rowndio. Nes i'r holl luosi er mwyn dangos y came. Yn wir yr unig peth odd angen gwneud oedd rhannu gan mas moleciwlol a llusoi gan nifer yr atomau yn y moleciwl. Dyna be nest ti yn y diwedd dwi'n meddwl. Ar ol cwrw neu yn llawn hangover, nid yw hwn yn fath o broblem i daclo gyda sicrwydd 100%! :rolio:

Ie, nes i anghofio'n wreiddiol mae'r nifer o atomau oedd angen, nid y nifer o folecylau :wps:
Cwestiwn da i roi ar ddechrau'r cwrs AS, cyfle i gael gwared ar gwpwl o wasters!

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 5:06 pm
gan Duw
ceribethlem a ddywedodd:Cwestiwn da i roi ar ddechrau'r cwrs AS, cyfle i gael gwared ar gwpwl o wasters!


Syniad da :lol: - er dwi'n colli nhw'n raddol dros y flwyddyn - dim stic 'da'r cids rhagor. Wel, gwell eu bod nhw'n astudio'r celfyddyde os y'n nhw'n diawled diog - dim lle i nhw fod yn wyddonwyr.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 5:13 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Cwestiwn da i roi ar ddechrau'r cwrs AS, cyfle i gael gwared ar gwpwl o wasters!


Syniad da :lol: - er dwi'n colli nhw'n raddol dros y flwyddyn - dim stic 'da'r cids rhagor. Wel, gwell eu bod nhw'n astudio'r celfyddyde os y'n nhw'n diawled diog - dim lle i nhw fod yn wyddonwyr.

'Run peth gyda ni. Dechreuodd dros 40 gyda ni ym ml 12 mis medi. Wedi colli'r drama cwins, nawr 35 sydd ar ol. Ambell un yn stryglo braidd, ond blwyddyn da ar y cyfan. Blwyddyn nesa mynd i fod yn wahanol! Niferoedd lot llai, 25 ym ml 12 sbo.

Re: Sawl atom sydd mewn bricsen?

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 5:28 pm
gan Duw
Hoffwn fwrw 20! Dwi stryglo i dderbyn ffigurau dwbl y flwyddyn nesa. Prinder talent a gallu yn y flwyddyn. Lwcus os bydd 20 yn y flwyddyn gyfan yn cyrraedd y gofynion mynediad!